Rwyf yn falch o nodi heddiw fel diwrnod pwysig ar y daith tuag at gydraddoldeb i ferched. Cafodd y Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobol ei phasio ar 6 Chwefror 1918 oedd yn rhoi’r bleidlais i rai merched am y tro cyntaf.
Rydym yn parhau i geisio cyrraedd tuag at gydraddoldeb llawn ym mhob agwedd o fywyd. Mae’n hi’n daith sydd wedi gweld colli bywydau. Mae hi yn parhau i fod yn daith hir a blinderus.
Ond mae fy nghenhedlaeth i o ferched yn benderfynol o roi pob cefnogaeth i’r lleisiau benywaidd ifanc sy’n gynyddol ddig am y ffordd y mae nhw’n cael eu trin yn y Gymru gyfoes, gan ein gwneud ni mor benderfynol ag erioed o roi blaenoriaeth i’r angen i gyrraedd cydraddoldeb rhywedd llawn – yn benderfynol o roi brys i’r gwaith – ac o’r angen i roi cydraddoldeb rhywedd yng nghanol yr agenda gwleidyddol yma yng Nghymru.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter