Ymateb Plaid Cymru i'r newyddion y bydd holl ddisgyblion Cymru yn gallu dychwelyd i'r ysgol fis Medi.
Meddai Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg:
"Mae croeso i'r cyhoeddiad am gynllun i ailagor ysgolion i holl blant Cymru, er ei fod yn hir-ddisgwyliedig.
"Nid yw'n glir pam mae'r cyhoeddiad wedi cymryd cyhyd, a'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi eu canllawiau ers dechrau Mai a Mehefin, ond bydd hyn yn newyddion da i addysg disgyblion gan fod y rhyngweithio rhwng disgyblion ac athrawon yn hollbwysig i ddysg a lles y disgyblion.
"Nawr, bydd gan ysgolion ychydig dros 50 diwrnod i baratoi eu safleoedd i groesawu eu disgyblion i gyd yn ôl yn ddiogel ac rwyf fi, fel eraill, yn aros am y canllawiau llawn gan Lywodraeth Cymru.
"Mae creu 900 o swyddi newydd hefyd yn newyddion da i'r sector. Y cyflymaf y gellir sefydlu'r rhain drwy ein system addysg i gyd, y gorau y gallwn roi sylw i'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau na chaiff unrhyw blentyn ei adael ar ôl o ganlyniad i'r pandemig hwn."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter