Ym mis Rhagfyr, lansiwyd apêl Nadolig gan y gwleidyddion lleol Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS, a hynny er mwyn rhoi hwb i gronfeydd 8 banc bwyd lleol. Daeth yr apêl i ben ddechrau Ionawr ar ôl rhagori ar y targed gwreiddiol o £750 i godi £2,050.
Lansiwyd yr apêl rai misoedd ar ôl i Hywel Williams AS gyhoeddi adroddiad yn bwrw golwg ar dlodi yn Arfon. Comisiynwyd Sefydliad Bevan i archwilio sefyllfa tlodi yn yr etholaeth ac i ddod o hyd i ddatrysiadau. Nododd yr adroddiad fod materion penodol yn effeithio ar yr ardal, gan gynnwys tâl isel a chyflogaeth ansicr, yn ogystal â chostau tai, ynni a theithio uchel.
Codwyd yr arian yn sgil adroddiadau gan Fanc Bwyd Coed Mawr yn yr etholaeth fod mwy a mwy o deuluoedd lleol yn dibynnu ar wasanaethau’r banciau bwyd, yn ogystal ag adroddodd gan y Trussel Trust fod cynnydd o 16% yn y defnydd o fanciau bwyd yn 2023.
Mae Siân Gwenllian AS yn cynrychioli'r ardal yn Senedd Cymru. Yn ôl Siân:
“Unwaith eto eleni rydym wedi rhagori ar ein targed gwreiddiol, diolch i haelioni pobl leol.
“Mae diffyg mynediad at fwyd yn arwydd clir nad ydi cymdeithas yn gweithio i bawb.
“Dyna pam rydw i’n falch o fod yn aelod o blaid sydd, trwy ein Cytundeb Cydweithio arloesol gyda Llywodraeth Cymru, yn cyflwyno prydau ysgol am ddim.
“Bydd pob plentyn ysgol gynradd, a mwy na 6,000 o ddisgyblion oed meithrin yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn mis Medi eleni.
“Rhan bwysig arall o’r Cytundeb yw’r Strategaeth Fwyd Gymunedol a fydd yn annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd yn lleol yng Nghymru, a’r gobaith yw y bydd yn arwain at ostyngiad mewn gwastraff bwyd. Gallai cynllun o’r fath adeiladu ar gryfder prosiectau bwyd cymunedol yng Ngwynedd sy’n mynd i’r afael â bwyd dros ben o archfarchnadoedd.
“Mae llawer o waith i’w wneud i fynd i’r afael â thlodi bwyd, a dwi’n hyderus y bydd bodolaeth brawychus banciau bwyd ar flaen meddyliau pobl wrth bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol eleni.
“Ond am y tro hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau hael.”
Ychwanegodd Hywel Williams, cynrychiolydd yr ardal yn San Steffan:
“Rydan ni’n gweld mwy a mwy o deuluoedd yn gorfod troi at fanciau bwyd lleol am gymorth oherwydd y cynnydd mewn costau byw. Mae costau cynyddol bwyd a thanwydd yn effeithio ar bawb, ond i deuluoedd sydd ar yr incwm isaf mae’r argyfwng hwn gymaint yn waeth.
“Rydan ni’n ffodus bod yn Arfon gymaint o bobl dosturiol a ddaeth i’r adwy yn ein hapêl Nadolig. Diolch i bawb a gyfrannodd.”
Y prosiectau bwyd fydd yn elwa o’r ymgyrch fydd Banc Bwyd Arfon, Banc Bwyd Coed Mawr, Bwyd i Bawb Bangor, Cynllun Bwyd Yr Orsaf ym Mhenygroes, Porthi Dre yng Nghaernarfon, Pantri Pesda, Cynllun Bwyd Cwm-y-glo a Llanrug a Banc Bwyd Cadeirlan Bangor.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter