Mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi galw ar Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru i wneud y sector dwristiaeth yn ‘gynaliadwy’.
Mewn cyfarfod o’r Senedd ddoe, dywedodd Siân Gwenllian AS, sydd hefyd yn Weinidog Cysgodol Plaid Cymru, bod angen gwneud y sector dwristiaeth yn fwy cynaliadwy er mwyn sicrhau dyfodol y diwydiant.
Dywedodd yr Aelod o’r Senedd dros Arfon;
“Rydan ni wedi croesawu llawer mwy o ymwelwyr na’r arfer i fannau twristaidd yn fy etholaeth i eleni. Maen nhw wedi dod â hwb haf bach Mihangel i’r economi leol, ond tydi’r profiad ar gyfer yr ymwelydd, nag ar gyfer y boblogaeth leol, wedi bod yn bleserus ar bob achlysur.”
Yn ôl yr Aelod o’r Senedd lleol, ymhlith y problemau sy’n codi mae problemau parcio, problemau teithio, ciwiau hir, a phroblemau sbwriel.
Dywedodd yr AS wrth y Prif Weinidog fod;
“y rhain i gyd yn cael effaith negyddol ar brofiad yr ymwelydd, ac wrth gwrs yn creu rhwystredigaeth fawr i’r boblogaeth leol.”
Mae Siân Gwenllian yn codi’r mater yn y Senedd wedi adroddiadau o anrhefn yn ei hetholaeth ei hun yn dilyn yr hyn a eilw’r gwleidydd yn ‘or-dwristiaeth.’”
Heriodd y Prif Weinidog;
“Ydych chi’n cytuno bod rhaid canfod ffyrdd i reoli gor-dwristiaeth, a bod gan y Llywodraeth rôl bwysig i’w chwarae, drwy dynnu’r holl bartneriaid perthnasol at ei gilydd er mwyn cynllunio ymlaen at dymor llwyddiannus y flwyddyn nesaf?”
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn cytuno â chanfyddiadau Siân Gwenllian AS, gan atgyfnerthu pwysigrwydd twristiaeth i ardal gogledd Cymru.
Ychwanegodd Siân Gwenllian AS;
“Mae'r haf wedi dangos yn glir y gall tensiynau godi rhwng cymunedau ac ymwelwyr.
Ar gyfer dyfodol y sector mae'n rhaid i ni ddod o hyd i’r cydbwysedd cywir fel bod y profiad i'r gymuned leol a'r ymwelydd cystal ag y gall fod.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter