Mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg ac Arfor, ac Aelod o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian, ynghyd â chyd-ASau Plaid Cymru wedi tanlinellu sut y bydd ei phlaid yn mynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi.
Mae’r Aelod o’r Senedd dros Arfon, sy’n sefyll i gael ei hailethol yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf wedi galw’r argyfwng ail gartrefi yn ‘ormes economaidd.’
Dywedodd Siân Gwenllian AS, sydd hefyd yn Weinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg;
“Mae'r amser wedi dod i weithredu'n gadarn i amddiffyn cymunedau a phrynwyr tro cyntaf rhag gormes economaidd ail gartref.
Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Plaid Cymru adroddiad 16 tudalen yn cynnwys pum prif argymhelliad, a hynny cyn y ddadl yn y Senedd.
Mae'r mesurau arfaethedig yn cynnwys newid deddfau cynllunio i ganiatáu i gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi, gan ganiatáu i gynghorau godi premiwm treth cyngor o hyd at 200% ar ail gartrefi, yn ogystal â chael Llywodraeth Cymru i gyflwyno rheoliadau i dreblu'r Dreth Trafodiad Tir wrth brynu ail eiddo.”
Rhyddhawyd adroddiad Plaid Cymru, o dan yr enw ‘Ailgodi ein Cymunedau’ wrth i’r ddadl ynghylch ail gartrefi boethi, ac wrth i 30 o ymgyrchwyr orymdeithio o Nefyn i Gaernarfon i alw am weithredu ar frys ar ail gartrefi.
Dywedodd Siân Gwenllian, sy'n cynrychioli ardal Arfon yng Ngwynedd, sir lle mae 12% o'i stoc dai yn cynnwys ail gartrefi sy'n eiddo i bobl o du allan i'r sir, y byddai Plaid Cymru hefyd yn
“Cau’r bwlch sy’n caniatáu i berchnogion ail gartref gofrestru eu heiddo fel “busnesau” er mwyn osgoi talu premiwm treth y cyngor.
Hefyd, mae angen cynllun trwyddedu ar gyfer rhentu eiddo trwy gwmnïau fel AirBnB er mwyn rheoli'r niferoedd, ac rydym hefyd yn cynnig rhoi rhagor o rym i gynghorau i adeiladu tai ag amodau lleol arnynt, yn ogystal â’i gwneud hi'n haws dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ac ailddiffinio'r term 'cartref fforddiadwy', sydd ar hyn o bryd yn cynnwys eiddo gwerth dros £250,000.”
Mae adroddiad Plaid Cymru yn bwrw golwg ar wledydd fel Canada, Denmarc ac Iwerddon am ysbrydoliaeth ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem, gan nodi ‘nad yw’r heriau a ddaw yn sgil cael gormod o ail gartrefi wedi’u cyfyngu i Gymru yn unig’. Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ymdrechion Northumberland a Camden.
Ychwanegodd Siân Gwenllian;
“Prif bwrpas datganoli oedd rhoi i Gymru y pwerau i ddatrys ein problemau ein hunain, ond nid yw'r sefyllfa'n gwella, gyda thros draean o'r cartrefi a werthwyd yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn cael eu prynu fel ail gartrefi.
Ni allwn barhau fel hyn. Nid yw’n deg bod yn rhaid i bobl sy’n byw mewn ardaloedd sydd eisoes yn ddifreintiedig o ran diffyg cyfleoedd gwaith weld eu cymunedau’n cael eu trawsnewid yn araf wrth i bobl leol orfod symud i ffwrdd er mwyn dod o hyd i dŷ.
Mae’r adroddiad ar gael i’w ddarllen ar wefan Plaid Cymru, pe bai unrhyw un eisiau dysgu sut y byddai Plaid Cymru yn mynd i’r afael yn ystyrlon ag argyfwng ail gartrefi.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter