Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian yn galw ar Brif Weinidog Cymru i fod yn ‘agored a thryloyw’ â’r cyhoedd ynghylch y bygythiad i wasanaethau fasgiwlar brys yn Ysbyty Gwynedd Bangor, a chadarnhau pryd yn union y penderfynwyd yn swyddogol i is-raddio’r gwasanaeth.
Bydd Siân Gwenllian AC yn codi'r mater yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw wrth i bryderon gynyddu ynghylch y diffyg tryloywder yn y broses o benderfynu ar ddarpariaeth gofal fasgiwlar Ysbyty Gwynedd. Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig ac o dan gyfrifoldeb uniongyrchol Llywodraeth Llafur Cymru.
Mae pryderon penodol wedi eu codi ynglŷn â’r broses a arweiniodd at y Bwrdd Iechyd i wneud tro pedol ar addewid i gadw’r gwasanaeth fasgiwlar byd enwog yn yr ysbyty, er gwaethaf gwrthwynebiad gan gleifion, meddygon a gwleidyddion lleol.
DywedoddSiân Gwenllian AC,
‘Mae fy etholwyr a minnau wedi synnu at y ffordd y mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi delio gyda’r mater yma, trwy gyflwyno newidiadau iechyd pell-gyrhaeddol heb ddim atebolrwydd.’
‘Mae’n rhaid i Brif Weinidog Cymru egluro sut gwnaed y penderfyniadau hyn a pham fod yr holl broses wedi ei lywio gan dorri addewidion, datganiadau camarweiniol a diffyg tryloywder o’r cychwyn.’
‘Mae’r ymatebion yr wyf wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Llafur Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn methu lleddfu y pryderon difrifol sydd gennyf i, a nifer cynyddol o fy etholwyr.’
‘Dro ar ôl tro rwyf wedi gofyn am wybodaeth ynglŷn â sut yn union y gwnaed y penderfyniad i symud gwasanaethau argyfwng fasgiwlar.’
‘Mae llythyr a yrrwyd at Feddygon Teulu yn Chwefror 2018 yn nodi yn glir y bydd gwasanaethau argyfwng yn cael eu cadw yn Ysbyty Gwynedd ac mae cofnodion cyfarfod y Bwrdd Iechyd ym mis Mawrth yn cadarnhau hynny.’
‘Rydym nawr ar ddeall NA FYDD gwasanaethau fasgiwlar brys yn cael eu diogelu yn Ysbyty Gwynedd. Rwyf eisioes wedi gofyn i Lywodraeth Llafur Cymru ac i’r Bwrdd Iechyd gyflwyno munudau sy’n cadarnhau'r newid polisi yma, ond hyd yn hyn does dim ateb wedi dod i law’
‘Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi dewis diystyru ceisiadau am asesiadau effaith symud gwasanaeth fasgiwlar brys o Ysbyty Gwynedd ar gleifion sy’n byw ym mhellteroedd gogledd orllewin Cymru.’
‘O ganlyniad, mae newidiadau pell-gyrhaeddol yn cael eu gwthio trwy’r drws cefn gyda ychydig iawn o graffu cyhoeddus a nesa peth i ddim tryloywder, ar draul gofal cleifion ac yn y pen draw, eu diogelwch.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter