Ym mis Medi, dywedodd yr undeb ar gyfer gweithwyr siopau, USDAW, fod un o bob chwech aelod o staff siopau wedi wynebu camdriniaeth ar sail ddyddiol.
Mae Siân Gwenllian AS wedi annog pobl i ‘fod yn garedig’ â gweithwyr archfarchnadoedd sy’n ‘weithwyr allweddol.’
Gwnaed sylwadau’r Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi i glipiau fideo ddod i’r amlwg yn dangos unigolion yn cam-drin staff archfarchnadoedd a oedd yn rhoi rheolau’r clo dros dro cenedlaethol ar waith.
Mae arolwg diweddar USDAW o 5,000 o aelodau staff yn awgrymu bod 28% wedi cael eu bygwth, a bod 4% wedi wynebu ymosodiad corfforol yn ystod cyfnod y pandemig. Dangosodd astudiaeth gan The Association of Convenience Stores (ACS) hefyd fod 40% o siopau cyfleus wedi gweld cynnydd mewn trais neu gam-drin llafatr yn ystod y cyfnod clo.
Mae Consortiwm Manwerthu Prydain hefyd yn datgelu bod un manwerthwr mawr yn riportio 150 o bobl yn bygwth poeri neu beswch ar staff y dydd.
Ychwanegodd Siân Gwenllian AS fod staff siopau yn ‘weithwyr allweddol sy’n gwneud eu gorau o dan amgylchiadau anodd.
‘Byddwch yn garedig. Does dim o hyn yn fai arnyn nhw.’
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter