“Mynd i'r afael â dwy broblem”: Ymateb AS i gyhoeddiad am ganolfan iechyd ar Stryd Fawr Bangor

Mae Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi ymateb i’r cyhoeddiad bod cynlluniau ar gyfer canolfan iechyd a lles newydd gwerth £30 miliwn ar Stryd Fawr Bangor wedi’u cymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd a Chyngor Gwynedd.

 

Yn ôl Siân:

 

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn newyddion da iawn i’r ddinas.

 

“Mae’r Ganolfan Iechyd a Lles yn un o’r prosiectau rydw i wedi bod yn eu gwthio fel y ffordd ymlaen i ganol dinas Bangor. Rydan ni i gyd yn gwybod bod angen dod â bywyd newydd i’r stryd fawr, ac rydan ni i gyd yn gwybod fod dybryd angen cyfleusterau iechyd newydd, cyfoes. Mae'r prosiect yma felly yn mynd i'r afael â dwy broblem fawr.

 

“Yn ogystal â gwella gwasanaethau iechyd lleol a lleddfu’r pwysau aruthrol ar Ysbyty Gwynedd, bydd yn denu pobl leol i ganol y ddinas, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr i siopau a chaffis lleol.

 

“Dwi’n edrych ymlaen at gydweithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru, y bwrdd iechyd lleol a Chyngor Gwynedd i weld y cynlluniau ar gyfer y ganolfan yn cael eu gwireddu."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2024-08-02 13:47:51 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd