Mae Siân Gwenllian AS wedi atgoffa disgyblion sydd yn derbyn eu canlyniadau Lefel A heddiw fod modd apelio.
Mewn anerchiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Siân Gwenllian AS ei bod yn 'dymuno'n dda i bawb sydd yn disgwyl am eu canlyniadau.' Aeth yn ei blaen i ddweud nad yw'n 'gyfnod hawdd' ac nad oedd y pryder ynglŷn â'r modd mae'r graddau'n cael eu gwobrwyo yn help i ddisgyblion.
Ond mae wedi nodi fod proses apêl ar gael, os fod disgyblion yn teimlo eu bod wedi cael 'cam.' Dywedodd yr AS Plaid Cymru dros Arfon, sydd hefyd yn Weinidog Cysgodol dros Addysg, 'Diolch i Blaid Cymru, mae'r broses honno am fod yn un sydd am ddim.'
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter