Mae’r Aelod o’r Senedd dros Arfon yn dweud mai cyfyngedig yw’r opsiynau sydd ar gael i deuluoedd yng ngogledd Cymru sy’n ceisio triniaeth IVF, ar ôl cefnogi etholwr yn ystod y broses.
Mae’r AS yn honni mai dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddiffygion yn y ddarpariaeth iechyd yn lleol, a’i fod yn enghraifft arall o orfod teithio allan o Gymru i gael triniaeth.
Mae’r AS yn galw am wella arbenigedd yn lleol, a hynny wedi iddi gefnogi etholwr sydd wedi wynebu heriau wrth geisio cael triniaeth IVF. Roedd yr etholwr yn dymuno aros yn ddienw.
Yn ôl Siân Gwenllian:
“Tra’n cefnogi etholwr a oedd yn ceisio cael mynediad at wasanaethau IVF, mae wedi dod i’r amlwg bod teuluoedd o ogledd Cymru sy’n ceisio’r driniaeth yn gyfyngedig yn eu hopsiynau.
“Mae’n ymddangos bod y rhai sy’n dymuno derbyn triniaeth IVF yn yr ardal yn cael eu hannog i wneud hynny yn Lloegr, sy’n annheg ar sawl lefel.
“Mae’r teulu rydw i wedi bod mewn cyswllt â nhw wedi cael profiad sy’n gyfarwydd i nifer o deuluoedd eraill yng ngogledd Cymru. Bu'n rhaid iddyn nhw wneud deuddeg taith o fewn chwe wythnos i dderbyn y driniaeth.
“Mae’n hollol annheg disgwyl i deuluoedd fynd i’r fath ymdrech. Does gan bob teulu ddim mynediad at gerbyd, na’r gallu i gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ymweld â chlinig ymhell o’u cartref.
“Ac mae’r heriau’n ymestyn y tu hwnt i’r broses ei hun.
“Yn ôl yr etholwr y bûm mewn cysylltiad â hi, mae’n bosib bod ar gleifion angen gweithwyr gofal iechyd proffesiynol arbenigol yn dilyn y driniaeth ei hun, sy’n deall y sgil-effeithiau a’r cymhlethdodau posibl sy’n deillio o driniaethau o’r fath.
“Gall y pellter rhwng y teuluoedd a’r arbenigwyr arwain at oedi wrth drin â materion meddygol a fyddai’n cael sylw cyflymach gan arbenigwyr sy’n fwy lleol.”
Yn ôl yr AS nid dyma’r unig enghraifft o ddiffyg yn y gwasanaeth iechyd lleol.
“Y gwasanaethau IVF yw'r diweddaraf mewn cyfres o ddiffygion yn y ddarpariaeth iechyd yn lleol.
“Dim ond yn ddiweddar rydw i wedi codi’r angen dybryd am uned arbenigol i famau lleol sy’n wynebu problemau iechyd meddwl ar ôl genedigaeth, yn hytrach na gorfod mentro dros y ffin i Loegr.”
Dywed Siân Gwenllian fod problemau wrth geisio ffrwythloni yn gyffredin, ac y dylid darparu gwell cefnogaeth yn lleol.
“O ystyried bod tua un o bob pedair merch yn wynebu problemau wrth ffrwythloni, mae’n gwbl annerbyniol nad oes clinig IVF pwrpasol yng ngogledd Cymru.
“Nid yn unig mae gofyn i ferched deithio i Loegr am driniaeth yn rhwystr ariannol i lawer, ond mae hefyd yn eu hamddifadu o dderbyn gofal yn eu mamiaith.
“Mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael â’r angen dybryd am wasanaethau IVF hygyrch a digonol yn lleol, gan sicrhau bod teuluoedd sy’n wynebu trafferthion wrth ffrwythloni yn gallu cael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter