Mae Siân Gwenllian AS wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd canolfan hyfforddi ddeintyddol yn cael ei hagor yng ngogledd Cymru, ond mae’n gofyn beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y cyfamser i fynd i’r afael ag ‘argyfwng go iawn.’
Mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros etholaeth Arfon wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd canolfan hyfforddi ar gyfer deintyddiaeth yn agor yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, mae'r AS wedi mynegi pryderon, gan ddweud;
“fod canolfan o’r fath ddwy neu dair blynedd i ffwrdd, ac yn y cyfamser, mae yna argyfwng gwirioneddol yn digwydd yn fy etholaeth i.
Yn ei hanerchiad i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, honnodd yr AS fod;
“rhan o'r broblem yn codi o'r ffordd mae'r cytundebau yn gweithio rhwng deintyddion a'r byrddau iechyd, ac mae yna addewid wedi bod ers tro y byddai'r Llywodraeth yma yn edrych yn fanwl ar beth sydd angen ei wneud er mwyn gwella'r sefyllfa yna.
Fedrwch chi symud ymlaen efo'r gwaith yna rŵan os gwelwch yn dda?
Ar y funud, mae pobl yn fy etholaeth i yn cael eu gadael i lawr.
Mae yna ddeintyddfa arall yn cau y flwyddyn nesaf, ac mae yna wirioneddol angen gweithredu buan yn y maes yma.
Yn ei ateb rhoddodd y Prif Weinidog fai ar Brexit, gan ddweud
“Mae Brexit wedi cael effaith negyddol ar wasanaethau deintyddol.
Mae 17 y cant o'r deintyddion sy'n cael eu cyflogi gan y cwmnïau mawr—a'r cwmnïau mawr sy'n cwympo mas o ardaloedd fel y gogledd-orllewin—yn cael eu recriwtio o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae Brexit yn tanseilio hynny.”
Serch hynny, nododd yr FM y byddai uned ddeintyddiaeth newydd yng ngogledd Cymru yn gwella’r sefyllfa.
Ychwanegodd Siân Gwenllian AS;
“Mae angen cynllun tymor hir ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r heriau hyn.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter