Mae Siân Gwenllian AS wedi mynegi ei phryder bod diffyg cyfathrebu Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r cyfnod clo lleol ym Mangor yn arwain at ddiffyg dealltwriaeth ymysg pobl leol.
Mae’r gwleidydd lleol sy’n cynrychioli Bangor yn Senedd Cymru wedi dweud;
‘Rwy’n cytuno’n gryf â’r angen i gael cyfnodau clo lleol, ond rwyf wedi codi pryderon bod y diffyg cyfathrebu yn arwain at ddiffyg dealltwriaeth, yn enwedig pan fydd un rhan o’r ddinas wedi’i heithrio o’r cyfnod clo.
Mae ar bobl leol angen eglurder a digon o rybudd.’
Mae’r AS yn mynegi ei phryderon yn dilyn dechrau cyfnod o glo swyddogol yn ninas Bangor o 18:00PM ddydd Sadwrn. Mae’r cyfyngiadau yn effeithio ar wyth ward yn y ddinas: Garth, Hirael, Menai, Deiniol, Marchog, Glyder, Hendre a Dewi.
Mynegodd yr Aelod o’r Senedd dros Fangor ei phryderon mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales heddiw (HYD 12).
Dywedodd Siân Gwenllian;
‘Gwnaed y cyhoeddiad ar nos Wener, gyda llai na 24 awr o rybudd. Ni chefais innau fel yr AS dros y ddinas, nac arweinwyr cymunedol lleol unrhyw friffio ynglŷn â’r mater. Nid dyma’r agwedd gywir i’w chael wrth geisio cyfleu negeseuon i’n poblogaeth leol.’
Mae’r AS wedi honni bod y diffyg cyfathrebu, ynghyd â ‘phryderon enfawr ynghylch profi, oedi gyda chanlyniadau, ac absenoldeb canolfan cerdded-i-mewn ym Mangor o hyd’ wedi arwain at ansicrwydd ymhlith pobl leol.
Nododd hefyd ei fod yn;
‘hollol hurt bod pobl o ardaloedd â chyfraddau heintiau llawer gwaeth na Bangor yn Lloegr yn parhau i gael teithio i Gymru.
Mae lefelau'r haint yn bryderus. Mae angen cynllun clir, wedi'i gyfathrebu'n glir i bobl Cymru.
Mae arweinwyr cymunedol lleol eisiau gweithio gyda'r Llywodraeth i gyfathrebu'r neges, i wella dealltwriaeth, ac i achub bywydau. Cofiwch ein cynnwys ni.’
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter