Mae perchnogion tai a fu’n rhan o gynllun Llywodraeth Cymru mewn pedwar pentref yn Arfon wedi dioddef yn ôl AS lleol.
Mae Siân Gwenllian AS sy’n cynrychioli Arfon yn y Senedd wedi condemnio arafwch wrth fynd i’r afael â gwaith diffygiol a wnaed wrth addasu cartrefi yng Ngharmel, Fron, Deiniolen a Dinorwig yn dilyn cynllun inswleiddio cartrefi Llywodraeth Cymru.
Mae’r Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi mynegi ei phryder ynglŷn â’r oedi, gan ddweud bod preswylwyr “wedi bod yn hynod amyneddgar” a bod “angen i’r gwaith sydd wedi ei addo ddigwydd rŵan.”
Roedd perchnogion y tai yn rhan o gynllun Arbed Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud eu cartrefi yn fwy ynni-effeithlon, gan gynnwys gosod gwres canolog ac inswleiddio mewn cartrefi ledled Cymru fel rhan o gynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru.
Ond mae'r cynllun wedi arwain at nifer o broblemau i etholwyr - gan gynnwys colli lliw ar inswleiddio’r waliau allanol, y cladin allanol wedi ei osod yn anghywir, pibellau draenio wedi'u hail-osod yn anghywir, waliau a rendro wedi cracio, a difrod i doeau.
Mae Siân Gwenllian wedi bod yn gweithio gyda’r preswylwyr ers sawl blwyddyn ond nid yw’r gwaith adfer wedi cychwyn o hyd, er gwaethaf canfyddiadau dau adroddiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth.
Yn y Senedd yn ddiweddar, gofynnodd yr AS i Lesley Grffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Materion Gwledig am ddiweddariad.
Dywedodd Siân Gwenllian:
“Mae etholwyr yng Ngharmel, Fron, Deiniolen a Dinorwig wedi bod yn hynod amyneddgar.
Rwyf wedi bod yn codi'r mater hwn gyda chi ers haf 2017.
Yn wreiddiol, roedd y cwmni yn gwadu bod problemau.
Y cwmni hwnnw oedd 'Wilmott Dixon Energy Services Ltd' sydd bellach yn masnachu o dan yr enw 'Fortem Energy Services Ltd.'
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddau adolygiad annibynnol, gyda'r ail yn dod i'r casgliad bod y problemau wedi'u hachosi gan safon gwaith gwael.
Gofynnodd eich swyddogion i'r gwaith adfer gael ei wneud heb oedi gormodol.
Ond mae mwy na deugain o etholwyr yn dal i aros i waith gael ei wneud. ”
Ym mis Ionawr 2019 cadarnhaodd y Gweinidog y byddai Sefydliad Ymchwil Adeiladu yn cynnal adolygiad annibynnol o'r materion ac y byddai'n rhannu'r canfyddiadau gyda hi pan ddaeth yr adroddiad i law. Ym mis Gorffennaf 2019 cyhoeddwyd y byddai ail adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal ar ôl i breswylwyr dynnu sylw at y ffaith bod mwy o broblemau wedi dod i’r amlwg.
Ychwanegodd Siân Gwenllian AS:
Ar sail canfyddiadau'r adroddiadau, roedd y Gweinidog wedi gofyn i 'Fortem Energy Services Ltd' a oedd gynt yn masnachu fel 'Wilmott Dixon Energy Services Ltd' benderfynu ar y camau gweithredu mwyaf priodol i sicrhau bod y gwaith adfer yn cael ei wneud heb oedi gormodol.”
‘Mae bellach wedi addo edrych ar y mater eto.
Yn oes Covid-19, mae pobl yn treulio mwy o amser nag erioed yn eu tai, ac mae gaeaf oer o'n blaenau. Mae'r preswylwyr rydw i'n gweithio gyda nhw yn y pedwar pentref hyn wedi dioddef digon. Mae ganddyn nhw hawl i dai cynnes o safon uchel ac fe wnaethon nhw gymryd rhan yng nghynllun Arbed gan roi eu ffydd yn y Llywodraeth. Ond maent wedi cael eu siomi. Mae preswylwyr wedi bod yn amyneddgar iawn - nawr mae'n amser gweithredu.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter