Mae Plaid Cymru yn dweud y gallai fod "manteision addysgol" i symud dechrau tymor yr Hydref ymlaen.
Dywedodd AS Plaid Cymru a Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Sian Gwenllian y byddai hynny'n well i ddisgyblion gan y byddai'n gwella cysondeb, dilyniant a sefydlogrwydd ar adeg gythryblus iawn i blant a phobl ifanc.
Ychwanegodd Ms Gwenllian y gallai hyn hefyd arwain y ffordd at newidiadau parhaol, mawr eu hangen, drwy ddarparu cyfle i feddwl am ail-lunio'r flwyddyn draddodiadol tri thymor mewn ffordd fwy cydlynol sy'n fwy addas i anghenion cyfoes.
Cyn hyn, mae adolygiad annibynnol Addysgu: Proffesiwn gwerthfawr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn i edrych ar 'ailystyried' ein hysgolion i'w gwneud yn fwy ffafriol i ddysgu ac yn fwy ystyriol o deuluoedd.
Dywedodd Ms Gwenllian fod ymchwil wedi dangos bod "cysondeb a dilyniant" yn elfennau pwysig ar ddysgu. Dywedodd hi fod athrawon a disgyblion ar hyn o bryd yn cael "hanner tymhorau dwys" cyn gwyliau byr, a bod hyn yn achosi blinder i athrawon a disgyblion. Ychwanegodd Ms Gwenllian fod llawer o athrawon yn dweud bod tymor yr haf yn "rhy hir" – yn enwedig i blant sydd ddim yn cael cymorth i ddysgu gartref.
Dywedodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid ei bod "efallai'n bryd meddwl eto" am drafodaethau yn sgil yr argyfwng Coronafeirws ac y gallai fod yn bryd ystyried newid tymhorau ysgol "yn barhaol".
Ddydd Gwener, dywedodd Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) Cymru fod cynlluniau i symud gwyliau haf ysgolion Cymru ymlaen fis wedi cael eu rhoi heibio.
Fodd bynnag, dywedodd Ms Gwenllian y dylid parhau i "archwilio'n llawn" y posibilrwydd o symud gwyliau haf eleni ymlaen, ac agor ysgolion yn raddol fesul cam ym mis Awst pe bai hynny'n ddiogel.
Ond pwysleisiodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid y dylid gwneud mwy i wella dysgu o bell yn y cyfamser ac y dylai pob ysgol ffocysu ar ymgysylltu â phob disgybl a sicrhau na chaiff unrhyw blentyn ei "adael ar ôl".
Meddai Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS,
"Dylem barhau i archwilio'n llawn y manteision addysgol posibl o symud gwyliau haf eleni ymlaen a dechrau tymor yr hydref ym mis Awst. Yna, gellid dechrau agor ysgolion yn raddol fesul cam ym mis Awst pe bai hynny'n ddiogel.
"Cyn argyfwng y Coronafeirws, roedd trafodaethau'n cael eu cynnal ynglŷn â hyd tymhorau ysgol a'r angen i newid o dri i bedwar tymor ysgol a gwneud gwyliau'r haf yn fyrrach.
"Mae angen meddwl am y trafodaethau hynny eto ar ôl y Coronafeirws, ac efallai ei bod yn bryd ystyried newid tymhorau ysgol yn barhaol ac ail-lunio patrwm blynyddol ysgolion.
"Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae hydoedd tymhorau'n amrywio a gwyliau'n digwydd yn afreolaidd, er bod ymchwil yn dangos bod cysondeb a dilyniant yn elfennau pwysig ar ddysgu. Ar hyn o bryd, mae athrawon a disgyblion yn cael yr hanner tymor dwys cyn gwyliau byr. Erbyn diwedd pob tymor, mae pawb yn flinedig iawn. Ar y llaw arall, mae llawer o athrawon yn dweud bod tymor yr haf yn rhy hir, a bod angen defnyddio wythnosau cyntaf tymor yr hydref i ddal i fyny, yn enwedig ar gyfer plant sydd ddim yn cael cymorth i ddysgu gartref.
"Yn y cyfamser, mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i wella dysgu o bell. Dylai hyn fod yn ganolog i'r cynlluniau i ailagor ysgolion yn raddol. Dylai hefyd fod yn rhan annatod o gynlluniau ar gyfer y dyfodol wrth i ni barhau i ymdrechu i gau'r bwlch digidol/tlodi a'r bwlch cyrhaeddiad. Rhaid i'n system addysg ffocysu ar ymgysylltu â phob plentyn a sicrhau na chaiff unrhyw blentyn ei adael ar ôl.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter