Mae gwleidyddion lleol wedi gofyn am ddyddiad arfaethedig ar gyfer dechrau’r gwaith ar 164 a 166 Stryd Fawr, Bangor, yn dilyn tân ym mis Rhagfyr y llynedd.
Mae’r Aelod o’r Senedd lleol a’r Aelod Seneddol, ynghyd â maer presennol Bangor wedi adleisio pryderon pobl leol fod yr oedi yn ychwanegu at bryder i fusnesau lleol.
Dywedodd Siân Gwenllian, sy'n cynrychioli'r ardal yn y Senedd;
‘Rydym wedi derbyn cadarnhad y bydd y gwaith yn cychwyn yn fuan.
Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad hwnnw, wrth gwrs, ac rydym yn awyddus i weld cynnydd, yn anad dim oherwydd bod cymaint o fusnesau yn wynebu anawsterau oherwydd clo dros dro Covid-19.
O’r herwydd, hoffem wybod y dyddiad cychwyn arfaethedig gan y byddai hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i berchnogion busnes Bangor sy’n wynebu gostyngiad enfawr yn nifer y cwsmeriaid yn ogystal â cholled incwm difrifol.’
Mae'r gwaith yn cynnwys dymchwel 164 a 166 ar y Stryd Fawr ym Mangor, gwaith sy'n cael ei wneud gan Evans Wolfenden Partnership (EWP). Gwnaed y penderfyniad i ddymchwel yr adeiladau oherwydd maint y difrod a sefydlogrwydd yr adeiladau yn dilyn y tân ym mis Rhagfyr y llynedd.
Ceir ar deall, oherwydd bod yr adeiladau dan sylw wedi'u hamgylchynu gan adeiladau eraill, bod angen craen symudol i sicrhau y gellir dymchwel yr adeilad yn ddiogel.
Mae sgaffaldiau wedi eu codi ar wyneb yr adeiladau i amddiffyn y cyhoedd sy'n defnyddio'r stryd, ond oherwydd culni'r ffordd, mae'r sgaffaldiau'n ymestyn allan i'r stryd ac o ganlyniad, mae rhan o'r Stryd Fawr ar gau.
Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am y gwaith dymchwel yn honni bod angen sefydlogwyr i gefnogi’r craen 200 tunnell oherwydd ‘gwasanaethau cyfleustodau tanddaearol, o wahanol oedrannau ac amodau, ynghyd ag isloriau eiddo a hanes o amodau tir gwael.’
Ychwanegodd Siân Gwenllian AS;
“Mae’r cwmni wedi pwysleisio bod diogelwch y Cyhoedd y tu ôl i bob penderfyniad a wneir ganddynt, ac rwy’n gwerthfawrogi ac yn parchu hynny.
Fodd bynnag, rydym yng nghanol cyfnod hynod heriol i fusnesau, ac mae angen sicrwydd a sefydlogrwydd arnynt.”
Dywedodd cynrychiolydd Arfon yn San Steffan, Hywel Williams AS;
‘Mae masnachwyr lleol yn gweithio’n hynod o galed i gadw eu siopau i fynd o dan amgylchiadau arferol. Mae Covid-19 wedi rhoi pwysau ychwanegol ar fanwerthwyr na allant ei fforddio ar hyn o bryd.
‘Rydyn ni wedi bod yn galw am amserlen gadarn ar gyfer y gwaith dymchwel fel bod modd gwneud paratoadau i ailagor y stryd fawr cyn gynted ag sy’n bosibl.’
‘Mae’r cynnydd ar adfer y sefyllfa wedi do di stop. Mae masnachwyr Bangor yn haeddu rhywfaint o sicrwydd ac arwydd bod pethau’n dod yn eu blaenau. ’
Mae maer presennol Bangor, John Wyn Williams, wedi adleisio’r pryderon, gan nodi ei bod hi’n
‘hen bryd. Mae busnesau lleol wedi bod yn amyneddgar, yn hynod amyneddgar. Y lleiaf y maent yn ei haeddu yw sicrwydd.
Yn amlwg rwy’n croesawu’r cyhoeddiad y bydd y gwaith yn cychwyn yn fuan, a gobeithiaf y bydd yr addewid hwn i bobl Bangor yn cael ei wireddu! ’
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter