Bydd diffyg amser ac adnoddau athrawon yn golygu bod darpariaeth hanes Cymru yn “ddarniog” yn y cwricwlwm newydd.
Mae Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru wedi mynegi ei siom dros basio disgwyliedig y Bil Cwricwlwm Newydd heb i hanes Cymru, gan gynnwys hanes pobl dduon a phobl groenliw, fod yn elfen orfodol.
Bydd y Bil yn cyrraedd ei gam olaf y prynhawn yma yng nghyfarfod llawn heddiw.
Mae Siân Gwenllian AS wedi bod yn galw ers amser maith am gynnwys hanes Cymru ar wyneb y bil, ac wedi cyflwyno gwelliannau ac arwain llawer o ddadleuon yn y Senedd am y mater.
Mynegwyd pryderon am addysgu ‘darniog’ hanes Cymru yn 2019 gan Bwyllgor Diwylliant y Senedd, ac mae adolygiad gan Estyn a argymhellwyd gan y pwyllgor wedyn i sefydlu addysgu hanes Cymru ‘fel sail i ddarparu Cwricwlwm Cymru’ wedi’i ohirio tan hydref 2021 oherwydd y pandemig.
Dywedodd Ms Gwenllian y bydd disgyblion yn destun “loteri cod post” heb “gorff gwybodaeth cyffredin, gorfodol” i ysgolion.
Nododd Ms Gwenllian hefyd fod “gwybod a deall treftadaeth Cymru a’n lle yn y byd yn hawl y mae disgyblion Cymru i gyd yn ei haeddu”.
Meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS,
“Siom enbyd yw gweld y bil hwn yn cyrraedd ei gam olaf heb i hanes Cymru, gan gynnwys hanes pobl dduon a phobl groenliw, fod yn elfen orfodol ar y cwricwlwm.
“Mae gwybod a deall treftadaeth Cymru a’n lle yn y byd yn hawl y mae pob disgybl yng Nghymru yn ei haeddu, ac yn hanfodol i sicrhau bod disgyblion Cymru yn ‘ddinasyddion gwybodus o Gymru a’r byd’, fel y mae’r bil yn ei argymell.
“Dylai stori genedlaethol Cymru, gan gynnwys hanes pobl dduon a phobl groenliw, fod yn rhan orfodol o’r cwricwlwm newydd, wedi’i gynnwys ar wyneb y Bil ac mae angen rhoi adnoddau a hyfforddiant i athrawon i ategu hyn. Fel arall, bydd diffyg arweiniad i ysgolion ynglŷn â’i addysgu a’i roi ar waith, ac yn y pen draw, bydd yn annhebygol iawn o gael ei addysgu mewn gwirionedd.
“Mae’n destun gofid difrifol y bydd ein plant a’n pobl ifanc yn wynebu loteri cod post o ran y cwricwlwm newydd – a bydd hynny’n anochel heb roi corff gwybodaeth gorfodol a chyffredin i ysgolion ei addysgu.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter