Mae Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllian, yn dweud bod ymateb Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i bryderon diweddar am ddyfodol Gwasanaethau Fasgiwlar ym Mangor yn codi mwy o gwestiynau nag atebion.
Dywedodd Siân Gwenllian:
Ddwy flynedd yn ôl, buom yn ymgyrchu yn llwyddiannus i gadw gwasanaethau mamolaeth llawn yn Ysbyty Gwynedd, Bangor. Mae’r Bwrdd Iechyd nawr yn ceisio canoli gwasanaeth arall - y gwasanaeth fasgiwlar a fyddai’n arwain at ganlyniadau enbyd i gleifion yng ngogledd orllewin Cymru. Tydi ymatebion diweddar gan y Bwrdd heb wneud dim i dawelu ofnau ynghylch dyfodol gwasanaethau cleifion mewnol a darpariaeth frys mewn gwaith craidd a byddai’r golled yn cael effaith negyddol gynyddol ar yr ysbyty gyfan ac felly ar les cleifion yng ngogledd orllewin Cymru.
Mae gwasanaethau fasgiwlar yn rhan allweddol o'r gofal a ddarperir yn Ysbyty Gwynedd, ac yn cynnwys llawdriniaeth ar gyfer pobl sydd â bygythiad i'w bywyd drwy waedu difrifol a llawdriniaeth i arbed coesau neu freichiau yn ogystal â gofal barhaus ar gyfer cleifion ar ddialysis yr arennau.
Mae diffyg tryloywder ynglŷn â’r newid sylweddol hwn yn peri pryder mawr ac mae angen ateb y cwestiynau canlynol.
1) Ydi’r Bwrdd Iechyd yn bwriadu cau'r gwasanaethau cleifion mewnol a gwasanaethau brys a ddarperir ar hyn o bryd ym Mangor a Wrecsam er mwyn sefydlu gwasanaeth o'r newydd ar safle arall?
2) A fydd ward ar gyfer gwasanaethau fasgiwlar cleifion mewnol yn Ysbyty Gwynedd ar ôl i’r canoli digwydd?
3) Beth fydd yn digwydd i wasanaethau brys fasgiwlar, h.y. a fydd cleifion yn parhau i gael eu derbyn a'u trin yn Ysbyty Gwynedd mewn achosion pan fydd perygl i glaf golli braich neu goes neu perygl i fywyd, neu a fydd angen iddynt deithio i Glan Clwyd?
4) Oni fyddai hi yn rhatach uwchraddio cyfleusterau presennol ym Mangor a/neu Wrecsam yn hytrach nag adeiladu theatr hybrid ar safle sydd ar hyn o bryd gydag ychydig iawn o ddarpariaeth fasgiwlar?
Gwrthwynebaf yn gryf unrhyw ymgais i ganoli'r gwasanaeth cleifion mewnol a symud gwasanaethau fasgiwlar brys o Fangor i Rhyl a galwaf ar arlodau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i atal y cam niweidiol yma.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter