Gyda’r gaeaf a thymor y ffliw yn prysur nesáu, mae ymgyrch ar y gweill eto eleni gan y Tîm Curwch Ffliw i annog pobl i fynd at eu meddyg teulu i gael brechiad yn erbyn y ffliw. Bob blwyddyn yn ystod y gaeaf mae miloedd o bobl yn y DU yn cael eu heffeithio gan afiechydon sy’n deillio o glefyd y ffliw gyda 17,000 o bobl Cymru yn dioddef, ac mae rhai grwpiau yn fwy tebygol na’i gilydd o ddioddef yn ddifrifol yn sgil y clefyd.
Meddai Siân Gwenllian, AC Arfon dros Blaid Cymru:
“Mae’n hawdd anghofio difrifoldeb clefyd y ffliw a’i ddiystyrru fel annwyd trwm - ond mae’r ffliw yn gallu lladd, a gall arwain at gyfnodau o salwch difrifol mewn rhai aelodau o’n cymdeithas, fel pobol hŷn a phlant ifanc neu’r rhai sydd â chlefyd hirdymor arnyn nhw. Rydw i’n annog pawb sydd yn y grwpiau targed - sef rheiny sydd fwyaf tebygol o ddal y ffliw a dioddef yn ddrwg ohono - i gysylltu â’u meddyg teulu neu â’u fferyllfa gymunedol ar fyrder i drefnu apwyntiad brechu.”
Bob blwyddyn yng Nghymru, brechlynir dros 750,000 o bobl yn erbyn y ffliw, ac mae hi’n arbennig o bwysig i’r rhai sydd dros 65 oed, y rhai sydd yn dioddef o salwch cronig yn ogystal â merched beichiog dderbyn y brechiad. Dylai plant o dan 3 oed gael y brechlyn ffliw trwynol, sef yr un fwyaf addas i blant. Eleni, mae’r rhaglen frechu ffliw flynyddol yn targedu mwy o grwpiau ‘risg’ nac erioed o’r blaen, gan gynnwys:
· Plant ifanc dwy a thair oed a phob plentyn ymhob ysgol gynradd (o’r dosbarth derbyn i flwyddyn ysgol 6). Iddyn nhw, mae’r brechlyn yn chwistrell trwyn syml, nid nodwydd
· Menywod beichiog
· Unigolion chwe mis oed a throsodd a chanddynt gyflyrau iechyd hirdymor (gan gynnwys oedolion difrifol ordew)
· Pobl sy’n 65 neu’n hŷn
· Gofalwyr
· Staff cartrefi gofal a chanddynt gysylltiad rheolaidd â chleientiaid
· Pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl arhosiad hir; Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol; aelodau mudiadau gwirfoddol sy’n darparu cymorth cyntaf brys wedi’i gynllunio; meddygon teulu locwm; gwirfoddolwyr gyda mudiadau sy’n darparu gofal, megis ‘pryd ar glud’.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter