Mae Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllian yn cefnogi ymgyrch #80mewn8 menter gymunedol Llety Arall yng Nghaernarfon wrth i’r rhai sydd tu ôl i’r cynllun apelio ar y cyhoedd am werth £80,000 o fuddsoddiadau o fewn yr 8 wythnos nesaf, er mwyn gwireddu eu breuddwyd.
Bwriad y cynllun yw cynnig llety unigryw i ymwelwyr yng nghanol tref Caernarfon, gyda phwyslais ar gynnig gwir flas a dealltwriaeth o iaith a diwylliant y dref.
“Mae’n gynllun cyffrous iawn a fydd yn ychwanegu ymhellach at gymeriad unigryw Caernarfon,” meddai Siân Gwenllian, “ac er bod criw Llety Arall wedi sicrhau nawdd ac wedi derbyn nifer o fuddsoddiadau gan bobol leol a thu hwnt, dydyn nhw ddim wedi cyrraedd eu targed ariannol eto. Mi fyddai rhagor o fuddsoddiadau yn dod a’r targed yn nes ac yn golygu bod modd bwrw mlaen i wireddu’r cynllun ardderchog yma.”
Yn ogystal ag opsiynau llety amrywiol a fydd yn addas i deuluoedd, grwpiau ac unigolion o bob oed, mi fydd gofod yng nghefn yr adeilad ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd cymunedol a nosweithiau o adloniant. Wrth wasanaethu ymwelwyr a phobl leol ar yr un pryd ac o fewn yr un adeilad, bydd modd cynnig profiad go iawn i ymwelwyr o beth ydi bywyd Caernarfon.
“Roeddwn i’n falch iawn o fod y canfed person i fuddsoddi yng nghynllun Llety Arall,” meddai Siân Gwenllian, “ac mi fyddwn i’n annog unrhyw un arall sydd â diddordeb yn nhwf a ffyniant y dref arbennig yma i wneud yr un peth os oes gennyn nhw ychydig bach o arian dros ben. Llongyfarchiadau mawr i’r criw tu ôl i’r fenter, ac mi fyddai’n edrych ymlaen yn arw at wylio Llety Arall yn mynd o nerth i nerth.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter