Mae AC Cynulliad Arfon Siân Gwenllian wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod am fuddsoddi 3.7M mewn 13 cynllun mewn ardaloedd difreintiedig ar draws Cymru, gan gynnwys 2 yn Arfon, gyda’r bwriad o wella cyfleusterau cymunedol. Ond fe fynegodd bryder mawr ar yr un pryd bod dau gynllun wedi gorfod aros yn hir i glywed os oeddynt yn llwyddiannus ai peidio a bod gwersi i’w dysgu o ganlyniad i hyn.
“Rydw i’n falch iawn bod dau gynllun yn Arfon fy etholaeth i yn mynd i fod yn derbyn arian haeddiannol iawn er mwyn iddynt fedru symud ymlaen gyda’u cynlluniau a gyda’u gweledigaeth gymunedol,” meddai Siân Gwenllian. “Llongyfarchiadau mawr i Gisda, menter gymdeithasol yng Nghaernarfon sydd yn cynnig cefnogaeth a chyfleoedd i bobol ifanc fregus, ar eu grant o £370,000. Bydd hyn yn eu galluogi i brynu’r adeilad sy’n lleoliad iddynt ers tair blynedd a fydd yn rhoi sicrwydd tymor-hir i’r cynllun a’r cyfle i ddatblygu ymhellach. Cyflwynwyd y cais bron i 12 mis yn ôl ac mae’r oedi wedi creu pryder ac ansicrwydd diangen.
“Rydw i’n hynod o falch hefyd dros Grŵp Datblygu Fron sydd wedi cael newyddion o ddyfarniad grant werth £195,000 a fydd yn caniatáu iddynt drawsnewid yr hen Ysgol Bronyfoel yn Ganolfan Fron gyda lle i aros mewn steil ‘bunkhouse’, gan ddod a bywyd a chyfleoedd newydd i’r ardal. Aeth y cais hwn i mewn i Lywodraeth Cymru 14 mis yn ôl. Yn y dyddiau dyrys sydd ohoni mae hi’n hollbwysig bod pobol leol sydd yn cynnig prosiectau cymunedol pwysig fel rhain yn cael y cyfathrebu gorau gan y rhai sydd yng ngofal y penderfyniadau, gan fod ein cymunedau’n gweiddi allan am fuddsoddiad a gan nad yw amser bellach ar eu hochr. Gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn dysgu gwersi o’r broses hon ac yn cymryd camau i osgoi oedi fel hyn y dyfodol.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter