Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon, Siân Gwenllian yn cefnogi ymgyrch sy’n cyd-fynd ag Wythnos Atal Cancr Ceg y Groth gan godi ymwybyddiaeth pwysigrwydd Prawf ‘Smear’.
Mae Siân Gwenllian AC wedi ymuno â Jo’s Cervical Cancer Trust i godi ymwybyddiaeth o sut gall merched leihau y risg o ddatblygu cancr ceg y groth.
Yn y DU, mae dros 3,200 o ferched yn cael diagnosis o gancr ceg y groth pob blwyddyn, er hynny mae o’n gancr sy’n bosib ei atal. Mae sgrinio serfigol (prawf smear) yn un o’r ffyrdd gorau i atal yr afiechyd, ynghyd a brechiad HPV sydd bellach yn cael ei gynnig mewn ysgolion. Ond mae’r rhai sy’n mynychu sgrinio serfigol ar y lefel isaf erioed, gyda dim ond un mewn pedair yn mynd am y prawf, a fyddai’n gallu achub eu bywyd.
Dywedodd Siân Gwenllian AC,
‘A hithau’n wythnos Atal Cancr Ceg y Groth, mae’n bleser gennyf weithio gyda Jo’s Cervical Cancer Trust i godi ymwybydiaeth o bwysigrwydd mynd am brofion.’
‘Mae sgrinio serfigol yn atal hyd at 75% o gancr ceg y groth rhag datblygu, felly mae’n boenus i feddwl fod cyn gymaint o ferched yn gwrthod y prawf, yn enwedig ar sail embaras.’
Dywedodd Prif Weithredwr Jo’s Cervical Cancer Trust Robert Music,
‘Rydym yn falch iawn o gael cefnogaeth Siân i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd sgrinio serfigol. Mae profion smear yn rhoi'r gwarchodaeth orau yn erbyn cancr serfigol, er rydym yn deall nad ydynt bob tro yn hawdd.’
‘Rydym eisiau i ferched deimlo’n gyfforddus i siarad gyda’i nyrs ac i ofyn cwestiynau. Tydi o ddim yn achosi trafferth ac mae sawl ffordd i wneud y prawf yn haws. Peidiwch a gadael i’ch pryderon atal chi rhag cymryd y prawf.’
Wythnos yma mae Jo’s Cervical Cancer Trust wedi cyhoeddi ymchwil newydd sydd wedi darganfod fod merched ifanc sy’n oedi neu ddim yn mynd am sgrinio serfigol oherwydd ofn (71%), teimlo’n fregus (75%) a gyda cywilydd (81%) am y syniad o fynd. Roedd tri rhan o dair (67%) yn nodi nad oeddynt yn teimlo o dan reolaeth am y syniad o brawf.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter