Yr wythnos ddiwethaf yn y Senedd bu cyfarfod rhwng aelodau’r Cynulliad a chynrychiolwyr o’r elusen Breast Cancer Care er mwyn tynnu sylw at y gwaith da sy’n cael ei wneud ganddynt gyda merched sydd wedi bod yn dioddef o ganser. Yn siarad yn y digwyddiad oedd Gwyneth Jennings, yn wreiddiol o’r Felinheli, ond sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers rhai blynyddoedd ac roedd AC Arfon, Siân Gwenllian, yno i gefnogi’r achlysur. Bu’r ddwy yn ffrindiau yn Ysgol Ramadeg y Merched, Bangor.
“Roedd clywed am y gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud gan Breast Cancer Care gyda merched sydd yn ceisio ail-gydio yn eu bywydau unwaith eto ar ôl cyfnod o salwch yn fy atgoffa mai dim ond dechrau’r daith yw’r newyddion bod y driniaeth wedi bod yn llwyddiannus, ac fel roedd Gwyneth yn esbonio mae peth ffordd i fynd eto tan bod rhywun yn teimlo’n gwbwl iawn yn gorfforol ac yn emosiynol - a dyna ble mae’r elusen yma’n gallu bod o gymorth,” meddai Siân Gwenllian.
Mae Breast Cancer Care yn trefnu cyrsiau i ferched sydd yn dod dros eu salwch o’r new Moving Forward After Cancer gyda’r bwriad o gynnig cyngor am ddeiet, therapïau amgen, ymarfer corfforol ac unrhyw beth a all helpu merched i roi’r salwch tu cefn iddynt.
“Fe ddysgon ni lawer o sgiliau gwahanol ac arferion iach sydd wedi bod o fudd mawr inni wedyn,” meddai Gwyneth Jennings, “ond y peth pwysicaf i fi oedd gallu rhannu fy mhrofiadau gyda merched eraill oedd wedi bod drwy’r un peth. Roeddwn i’n arfer gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd ac mi fues i’n rhoi deiagnosis i gleifion fy hun bryd hynny, ond hyd yn oed wedyn does ganddoch chi ddim syniad sut beth ydi o tan i chi ei brofi o eich hun.
“Mi ges i fy neiagnosis i fis Mawrth y llynedd ar ôl dod yn ôl o Seland Newydd ac roedd gen i lwmp bychan a phoen fel cyllall yn fy mron. Ond doeddwn i ddim yn poeni rhyw lawer cynt gan fod y lwmp yn mynd a dod ac roeddwn i o dan yr argraff nad oedd canser yn achosi poen, ond unwaith y gwelais i’r arbenigwr daeth y newyddion drwg yn syth, ac mi ges i dynnu’r lwmp o ‘mron yn fuan wedyn. Rydw i’n teimlo’n dda iawn erbyn hyn ac mi fyddai bob amser yn ddiolchgar i’r staff meddygol ac i dim Breast Cancer Care am eu holl ofal a chefnogaeth.”
Ond nid yw’r cyrsiau’n cyrraedd yr holl ferched y gallent fod yn eu helpu ac mae Gwyneth Jennings a Sian Gwenllian yn awyddus i weld hynny’n newid.
“Mi fyddwn i wrth fy modd yn gweld mwy o sylw’n cael ei roi i’r gwaith mae’r elusen yma yn ei gwneud a gweld cyllid iddi hefyd,” meddai Sian Gwenllian. “Ar hyn o bryd dim ond 3% o ferched sydd wedi cael canser y fron sydd yn mynd ar y cyrsiau yma ac rydw i’n awyddus i weld y ffigwr yna’n codi fel bod mwy o ferched yn gallu cymryd mantais o’r cyngor deietegol sydd ar gael ynghyd a phob math o gyngor arall gan arbenigwyr amrywiol sydd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter