MYNEDIAD AT DDEINTYDD YN ARFON ‘YN UN O’R GWAETHAF YN Y WLAD’.
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian wedi galw ar Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, i ‘gamu mewn fel mater o frys’, yn dilyn adroddiad gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain (Cymru) sy’n amlygu nad oes yr un practis deintyddol GIG yn Arfon yn derbyn plant a phobl ifanc gydag anableddau dysgu.
O’r chwe practis sy’n gweithredu yn Arfon, nid oes ‘run yn derbyn oedolion ar y GIG na phlant ar y GIG tra bod tri o’r chwech yn derbyn cleifion preifat. Mae hyn oherwydd y ffordd mae’r cytundeb deintyddol presennol yn capio niferoedd cleifion GIG.
Mae’r ffigyrau ar draws Cymru gyfan yn dangos mai dim ond un allan o bump (15%) practis deintyddol sy’n cymryd oedolion ar y GIG a dim ond un o bedwar (27%) sy’n cymryd plant ar y GIG.
Mae sawl etholwr wedi cysylltu â Siân Gwenllian AC yn bryderus am ddiffyg mynediad at ofal deintyddol GIG yng Ngwynedd. Bydd Siân Gwenllian AC yn codi’r mater yng Nghwestiynau Busnes y Cynulliad heddiw.
Dywedodd Siân Gwenllian AC,
‘Mae’r darganfyddiadau yma yn ddychrynllyd ac yn atgyfnerthu pryderon sy’n cael eu hadrodd i mi gan etholwyr lleol sy’n ei chael hi’n amhosib cael mynediad at ddeintydd ar y GIG.’
‘Nid yw’r sefyllfa yn dderbyniol. Dwi’n cael llythyrau gan bobl leol sydd â dim syniad sut i gael mynediad at ddeintydd y GIG.’
‘Rwy’n bryderus iawn o glywed nad yw plant a phobl ifanc gydag anableddau dysgu yn gallu cael mynediad i ofal deintyddol.’
‘Gall hyn gael effaith hirdymor a difrifol ar iechyd geneuol plant. Mae’r gost ddynol o’r argyfwng yma yn enfawr.’
‘Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r argyfwng yma fel mater o frys drwy weithio â darparwyr gofal deintyddol i sicrhau bod ein hardal ni yn cael mwy o ddeintyddion ar y GIG.’
‘Dylem hefyd fod yn edrych ar hyfforddi deintyddion yn lleol fel ateb hirdymor i’r argyfwng, i’w ddatblygu ar gefn yr hyfforddiant meddygol sydd i fod i gychwyn ym Mangor yn ddiweddarach eleni.’
‘Mae pobl leol eisoes wedi talu am ddeintyddiaeth GIG trwy eu trethi - mae’n hen bryd iddynt gael yr hyn maent wedi talu amdano.’
Ychwanegodd Tom Bysouth, Cadeirydd Pwyllgor Deintyddol y BDA yng Nghymru,
‘Mae’r ffaith nad oes yr un practis deintyddol yn Arfon yn derbyn plant fel cleifion yn nodwedd ddamniol o system sydd wedi methu.’
‘I nifer o deuluoedd, dyhead yn unig yw cael mynediad at ddeintydd ar y GIG, yn hytrach na realiti y gallant ddibynnu arno.’
‘Mae deintyddion yn gweithio dan gytundeb sydd wedi torri ac sydd wedi arwain at argyfwng recriwtio gan olygu fod cleifion yn wynebu siwrneau hirfaith i dderbyn gofal.’
‘Mae lleisiau ar draws y Cynulliad yn galw am newid go iawn. Mae angen i Weinidogion gyflwyno system sy’n gweithio i gleifion.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter