Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi dadlau heddiw y dylai Llywodraeth Cymru benodi tsar caffael i ymdrin â'r prinder difrifol yng Nghymru o ran pecynnau profi Covid-19, Cyfarpar Diogelu Personol (CDP) a dyfeisiau meddygol i gleifion.
Dim ond 1,100 o bobl sy'n cael eu profi bob dydd yng Nghymru ar hyn o bryd, er mai'r cynllun gwreiddiol oedd profi 6,000. Digwyddodd hyn ar ôl chwalu cytundeb honedig rhwng Llywodraeth Cymru a'r cwmni preifat Roche a fyddai wedi darparu 5,000 o'r profion hynny.
Cyflwynodd Adam Price yr achos o blaid penodi tsar â'r "unig gyfrifoldeb" o gaffael a chyflenwi profion Covid-19, CDP ac ocsigen a dyfeisiau meddygol ar gyfer Cymru.
Soniodd am gartrefi gofal â dim ond un neu ddau flwch o fasgiau llawfeddygol – pob un yn ddigon i bara dau ddiwrnod i un claf yn unig, yn ogystal â staff ysbytai'n gorfod gwisgo dillad isaf papur dros eu gwallt oherwydd diffyg unrhyw beth arall i'w diogelu.
Meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price:
"Mae'r prinder profion Covid-19 a CDP yng Nghymru yn cael effaith ddifrifol ar ein hymdrechion i frwydro yn erbyn lledaeniad y coronafeirws.
"Mae'n rhaid i Gymru weithredu dros ei hunan os ydym am sicrhau contractau cadarn ar gyfer y cynhyrchion hanfodol hyn.
"Dyna pam rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i benodi tsar caffael â'r unig gyfrifoldeb o gaffael a chyflenwi pecynnau profi, CDP ac ocsigen a dyfeisiau meddygol i gleifion.
"Rwyf wedi cael clywed am gartrefi gofal â dim ond un neu ddau flwch o fasgiau llawfeddygol – pob un yn ddigon i bara dau ddiwrnod i un claf yn unig, yn ogystal â staff ysbytai'n gorfod gwisgo dillad isaf papur dros eu gwallt oherwydd diffyg unrhyw beth arall i'w diogelu.
"Yn yr un modd, rydym yn mynd tuag yn ôl o ran profi; roedd Llywodraeth Cymru wedi addo 6,000 o brofion y dydd erbyn hyn.
"Byddai penodi un unigolyn ag un cyfrifoldeb allweddol yn ein helpu i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon a sicrhau bod gan Gymru yr holl adnoddau sydd eu hangen i frwydro yn erbyn lledaeniad y feirws."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter