Wrth ymateb i gyhoeddiad Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, y bydd diwygiadau enfawr i addysg ‘Cydberthynas a Rhywioldeb’ meddai Sian Gwenllian AC, llefarydd Plaid Cymru dros gydraddoldeb a chyd-sylfaenydd pwyllgor newydd y Cynulliad ar Gydraddoldeb a Menywod,
“Rwy’n croesawu’n fawr y cyhoeddiad hwn heddiw y bydd newidiadau yn cael eu cyflwyno i’r ffordd y mae addysg rhyw yn cael ei ddysgu yn ein ysgolion yng Nghymru ac mae’n gam cadarnhaol ymlaen. Ond, rwy’n gresynu ei fod wedi cymryd mor hir i’w gyhoeddi.
Yn ystod y trafodaethau ynghylch Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015, gwthiodd Plaid Cymru i sicrhau bod addysg ar ryw a pherthynas mewn ysgolion yn cael ei gynnwys yn y ddeddf. Mae wedi cymryd tan nawr i'r Llywodraeth gydnabod pwysigrwydd addysg rhyw ac yn y cyfamser mae cenhedlaeth o blant wedi colli addysg bwysig ar ryw a pherthynas.
Mae Carwyn Jones eisiau ei etifeddiaeth ef i fod yn un ffeministaidd. Mae ei addewid i wneud Cymru 'y lle mwyaf diogel i fenyw yn Ewrop' ac i ddrawsnewid Llywodraeth Cymru i fod yn 'lywodraeth ffeministaidd' yn dilyn cyfnod o sylw cynyddol ar gydraddoldeb rhyw – ynghyd ag adolygiad rhywedd ar draws Llywodraeth Cymru. Ni ddylid caniatáu i'r rhain fod yn eiriau gwag. Mae angen cynllun gweithredu manwl sy'n edrych ar bob agwedd ar ryw a pherthynas mewn addysg ac ar hyd pob maes bywyd cyhoeddus. Mae'r prawf yn y gweithredu ac nid yn yr addewidion.
Mae angen prawf arnom fod Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015 wedi ei wreiddio mewn cymdeithas. Mae aflonyddu rhywiol yn symptomatig o sut y mae merched yn cael eu trin yn eilradd yn y gymdeithas yma, ac mae'n rhaid cydnabod bod y continwwm o drais ac aflonyddu merched yn ymwneud â phatrymau ehangach, diwylliannol o anghydraddoldeb rhywedd. Bydd cymdeithas ffeministaidd yn cael ei greu drwy gydnabod a dangos cynllun gweithredu clir ar hyn.
Galwaf am sgwrs genedlaethol ar drais ac aflonyddu rhywiol a galw am gynllun gweithredol clir a manwl gan Lywodraeth Cymru ar sut y byddant yn gweithredu addysg ar ryw a pherthynas yn ein hysgolion yn ogystal a sut y byddant yn hyfforddi ein hathrawon ar ddarparu'r addysg hwn."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter