Mae Plaid Cymru yn croesawu holl argymhellion adroddiad interim y Panel Adolygu Annibynnol.
Meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS,
"Dro ar ôl tro, mae Plaid Cymru wedi cyflwyno'r achos o blaid defnyddio graddau asesu canolfannau yn lle arholiadau 2021. Rydym yn croesawu'r ffaith bod y Panel Adolygu Annibynnol hefyd yn dod i'r casgliad hwn, ac mae'n rhaid i'r Gweinidog ystyried y cyngor hwn.
"Mae eu cynnig yn sicrhau bod lles y dysgwr yn ganolog i'r system ac yn cydnabod effaith ddinistriol y pandemig ar y cohort hwn.
"Cyhoeddwyd argymhellion Cymwysterau Cymru ar yr un diwrnod, ac nawr mae gan y Gweinidog Addysg ddau ddarn o gyngor o'i blaen ac un gwahaniaeth pwysig iawn rhwng y ddau: mae Cymwysterau Cymru yn argymell defnyddio 'asesiadau unedau allanol' yn lle'r arholiadau sydd ar yr amserlen. Siawns nad enw arall ar arholiadau yw hwn?
"Mae cynifer o ddysgwyr wedi wynebu absenoldebau hir o'r ysgol oherwydd hunanynysu, nerfusrwydd i fynd i'r ysgol mewn mannau â niferoedd uchel o achosion, neu eu salwch eu hunain. Nid dull arholi 'yr un fath i bawb' sydd ei angen ar y cohort hwn nawr.
"Mae'r Panel Adolygu Annibynnol yn gofyn cwestiynau pwysig am degwch y dull arholiadau presennol, ac yn nodi bod angen dull gwell 'rhaglen gyfan' ar gyfer goruchwylio a chyflawni. Yn fy marn i, dylai'r Gweinidog Addysg dderbyn holl argymhellion y Panel Adolygu Annibynnol, a gwrthod argymhellion Cymwysterau Cymru."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter