Dangoswch eich bod o ddifri am fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd drwy roi’r gorau i drethi hydro, meddai AC.
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i ddarparu rhyddhad llawn i gynlluniau hydro cymunedol, wrth iddi chwilio am sicrwydd y bydd cynlluniau hydro yn ei etholaeth yn parhau i elwa o ryddhad llawn 100% ar gyfer 2020-21.
Yn dilyn pwysau parhaol gan Blaid Cymru yn y Senedd, amddiffynnwyd cynlluniau hydro cymunedol megis Ynni Ogwen ac Ynni Anafon yn Arfon rhag cynnydd enfawr o hyd at 900% yn eu cyfraddau ar gyfer 2019-20.
Nawr mae’r Aelod Cynulliad lleol wedi galw ar Weinidog yr Amgylchedd Lesley Griffiths i waredu trethi ar gynlluniau hydro lleol yn barhaol.
Meddai Siân Gwenllian AC,
‘Mae Llywodraeth Cymru, yn hollol gywir, wedi cyhoeddi argyfwng newid hinsawdd ac wedi mynegi awydd i weithredu yn y maes yma. Ond mae fy etholwyr a pobl Cymru yn mynnu tystiolaeth fod hyn yn fwy na geiriau gwag.’
‘Drwy bwysau parhaol, mae Plaid Cymru wedi perswadio Llywodraeth Cymru i barhau i ddarparu rhyddhad llawn i gynlluniau hydro cymunedol hyd at Mawrth 2020, ond mae beth fydd yn digwydd ar ôl hynny yn aneglur.’
‘Rwyf felly yn annog Llywodraeth Cymru fel rhan o’i ymrwymiad i fynd i’r afael â newid hinsawdd, i ymrwymo’n barhaol i waredu trethi ar gynlluniau hydro cymunedol.’
‘Mi fyddai hyn yn lleihau pryderon o fewn y diwydiant a darparu cynlluniau egni cymunedol gyda’r sicrwydd y maent angen i ail-fuddsoddi eu elw o fewn eu cymunedau.’
‘Os ydynt am adeiladu cenedl wyrdd mae’n rhaid i gynlluniau hydro cymunedol fod yn ran allweddol o hyn. Er hyn, mae angen sicrwydd tymor-hir i gynlluniau bach sy’n cael ei redeg gan gymunedau.’
‘Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu sicrwydd tymor-hir i’r sector fel gall ein cymunedau barhau i elwa o fuddsoddiadau gwyrdd, cynaliadwy fel hyn ar gyfer y blynyddoedd i ddod.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter