Rhaid amddiffyn llwybrau nwyddau hanfodol economi gogledd Cymru medd Hywel Williams.
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams wedi cyhuddo llywodraeth y DU o ddiystyru porthladd fferi ail brysuraf y DU wrth i Gaergybi gael ei adael allan o becyn cymorth Covid-19 gwerth £17 miliwn.
Ddydd Gwener, cyhoeddodd llywodraeth y DU becyn cymorth gwerth miliynau o bunnoedd i amddiffyn llwybrau fferi a nodwyd fel ‘cysylltiadau hanfodol’ rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Fodd bynnag, nid oedd unrhyw sôn am gefnogaeth i borthladd Caergybi, sy'n hanfodol i economi gogledd orllewin Cymru.
Yn ystod cwestiwn gyda’r Canghellor yn Nhŷ’r Cyffredin trwy gyswllt fideo, dywedodd Mr Williams ei bod yn ymddangos fel pe bai llywodraeth y DU yn aros i borthladd Caergybi fethu cyn camu i mewn.
Dywedodd Hywel Williams AS,
‘Ddydd Gwener, cyhoeddodd y llywodraeth becyn cefnogaeth i wasanaethau fferi rhwng Gogledd Iwerddon, yr Alban, a Lloegr. Anwybyddwyd y llwybr o Gaergybi i Ddulyn.'
'Mae llawer iawn o draffig Caergybi - Dulyn mewn gwirionedd rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, gan gynnwys cludo nwyddau sy’n sensitif i amser fel bwyd a meddygaeth.'
‘Mae hefyd yn hanfodol i economi gogledd orllewin Cymru. A yw’r Canghellor yn aros i Gaergybi, ail borthladd fferi prysuraf yn y DU, fethu cyn camu i mewn?’
Ychwanegodd Hywel Williams AS,
'Mae pandemig coronafirws wedi cael effaith ddifrifol ar wasanaethau fferi a'r porthladdoedd sy'n eu cynnal yn y DU, ac nid yw Caergybi yn eithriad.'
‘Mae’r llwybr rhwng Caergybi a Dulyn yn gyswllt pwysig iawn, gan gludo nwyddau sy’n sensitif i amser fel bwyd a meddygaeth rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Mae o bwysigrwydd strategol i economi gogledd Cymru.'
‘Mae’n anghredadwy nad yw Porthladd Caergybi wedi’i gynnwys ym mhecyn cymorth Llywodraeth y DU ac rwy’n galw ar frys ar y llywodraeth i unioni’r anghyfiawnder hwn.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter