Roedd Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllian a'r Cyng Steve Collings, sy'n cynrychioli ward Deiniol, Bangor, wedi eu syfrdanu wrth weld y difrod wnaed gan y tân ar rannau o Fynydd Bangor yr wythnos diwethaf.
Meddai Siân Gwenllian: "Bûm yn ymweld a'r safle heddiw ac roeddwn yn bryderus wrth weld fod y tân wedi dod yn agos iawn at dai ac eiddo a hynny dim ond tafliad carreg o ganol y ddinas. Mae'n rhaid ei fod yn brofiad dychrynllyd. Hoffwn ddiolch i'r gwasanaeth tân, yr heddlu a'r gwasanaethau brys eraill am eu gwaith ar Fynydd Bangor a hefyd ym Mraichmelyn, Bethesda a hefyd yng Ngharmel. Diolch hefyd i'r cymunedau lleol am gefnogi ei gilydd yn ystod cyfnod gofidus."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter