Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gadael i lywodraeth Dorïaidd y DG wneud eu gwaethaf i bobl fwyaf bregus Cymru, medd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Gydraddoldeb, Siân Gwenllian.
Dywedodd Siân Gwenllian y gallai Llywodraeth Lafur Cymru alw am ddatganoli gweinyddu nawdd cymdeithasol i amddiffyn hawlwyr bregus Credyd Cynhwysol sy’n dioddef caledi trwy roi diwedd ar ddiwylliant sancsiynau a helpu teuluoedd sy’n cael trafferth gyda’u taliadau, ond mae’n dewis peidio â gwneud hynny.
Tynnodd Siân Gwenllian sylw at esiampl yr Alban lle mae’r llywodraeth wedi trafod setliad ariannol sy’n golygu y gallant hwy, nid San Steffan, weinyddu taliadau, heb gost ychwanegol i Lywodraeth yr Alban.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Gydraddoldeb, Siân Gwenllian:
“Mae’r system Credyd Cynhwysol am gael ei chyflwyno ledled Cymru ym mis Rhagfyr, ac fel gwleidyddion, rydym yn paratoi ein hunain am yr effaith enbyd a gaiff. Lle mae eisoes wedi ei gyflwyno, mae Credyd Cynhwysol wedi gwneud llanast o fywydau pobl. Mae dyledion, troi allan o dai, a’r defnydd o fanciau bwyd wedi cynyddu yn yr ardaloedd lle cafodd ei dreialu.
“Ond yn hytrach na cheisio helpu teuluoedd, golchi eu dwylo o’r holl fater wnaeth Llywodraeth Cymru. Nid yw dadl y llywodraeth Lafur y gallai datganoli’r system fod yn ddrud yn dal dŵr - ni fyddai llawer o gost, oherwydd yn yr Alban, mae’r gyllideb gyfatebol wedi ei datganoli ynghyd â’r grym. Gosodwyd cynsail, a does dim rheswm pam na all hyn ddigwydd yng Nghymru.
“Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i lawer o bobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol aros hyd at chwe wythnos am eu taliadau. Trwy ddatganoli Credyd Cynhwysol fe allem newid amlder y taliadau, fel y gwnaeth yr Alban, a’u talu bob pythefnos. Byddai modd i ni hefyd roi terfyn ar ddiwylliant sancsiynau, a dechrau edrych ar ôl pobl yn hytrach na cheisio eu cosbi.
“Byddai datganoli gweinyddu nawdd cymdeithasol i Gymru yn gost-niwtral a gallai helpu teuluoedd yng Nghymru – mae’n bryd i Lywodraeth Lafur Cymru sefyll dros Gymru a’i dinasyddion.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter