Mae ASau Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams a Siân Gwenllian yn annog eu hetholwyr i gefnogi busnesau y stryd fawr trwy siopa’n lleol, ac ad-dalu’r masnachwyr bach, annibynnol a fu ar agor trwy gydol y cyfnod cloi ynghyd a busnesau sy’n ailagor am y tro cyntaf ers sawl mis.
Yn dilyn cyfres o ymweliadau â busnesau ledled yr etholaeth, talodd y cynrychiolwyr lleol deyrnged i'r mesurau sylweddol sydd wedi eu rhoi mewn lle gan fasnachwyr i addasu eu siopau a'u gwasanaethau ar gyfer mesurau ymbellhau cymdeithasol fel y gall cwsmeriaid siopa'n ddiogel.
Dywedodd Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AS,
‘Mae llawer o’n busnesau bach, lleol wedi bod ar reng flaen yr ymateb cymunedol i Covid-19, gan aros ar agor i ddarparu cyflenwadau bwyd hanfodol, cynnyrch ffres, eitemau dydd i ddydd a helpu’r henoed a’r bregus.’
‘Wrth i ni barhau i ddod allan o’r cyfnod cloi, mae’r masnachwyr bach, annibynnol hyn yn haeddu ein cefnogaeth rwan yn fwy nag erioed. O gaffis i gigyddion, siopau papurau newydd i salonau gwallt, mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r busnesau hyn a helpu i sicrhau eu dyfodol ar ôl-Covid.’
‘Ar ôl ymweld â llawer o fusnesau lleol dros yr wythnosau diwethaf, yr hyn sy’n amlwg yw bod pob un wedi cymryd camau sylweddol i addasu eu siopau fel y gall pobl siopa’n ddiogel, gan helpu i ail-godi hyder y cyhoedd.’
‘Lle bynnag bo modd, gwnewch eich siopa’n lleol. O'ch archeb bwyd wythnosol i gael torri'ch gwallt, bob tro y byddwch yn gwario arian yn un o'n siopau bach, annibynnol, mae'n help uniongyrchol i’n heconomi leol. Ni fyddwch yn cael yr un gwasanaeth personol yn y siopau mawr neu ar-lein.
‘O Fangor i Benygroes, Caernarfon i Llanberis a Bethesda, mae cryn ansicrwydd ynghylch dyfodol llawer o fasnachwyr y stryd fawr. Dyna pam y bu cadw'r bunt yn lleol mor bwysig.'
'Er bod llawer mwy y gall y llywodraeth ei wneud i gefnogi busnesau lleol, gallwn ni fel siopwyr hefyd wneud ein rhan i gefnogi ein manwerthwyr annibynnol yn ystod yr amseroedd anodd hyn.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter