Mae Gweinidog Cysgodol dros Addysg Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynllunio ymlaen llaw a dangos arweinyddiaeth go iawn er mwyn pobl ifanc.
Os yw'r Llywodraeth am adennill ymddiriedaeth pobl ifanc, mae'n rhaid iddynt gynllunio ymlaen llaw a darparu arweiniad go iawn, meddai Ms Gwenllian.
Meddai Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg,
"Bydd y dyddiau a'r wythnosau nesaf yn anhygoel o anodd i bawb wrth iddynt ddod i arfer â'r 'normal newydd', ond rwy'n hyderus y bydd penaethiaid yn ymdrin â'r problemau cychwynnol anochel cyn gynted â phosibl ac y bydd y ffocws yn troi at les y disgyblion, rhoi sylw i'w hanghenion addysgol a chanfod unigolion a fydd ag angen cefnogaeth ychwanegol.
"Yn y cyfamser, mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar y misoedd o'u blaen a chadw eu llygad ar y bêl os ydynt o ddifrif am adennill ymddiriedaeth ein pobl ifanc.
"Mae angen i'r Gweinidog Addysg dawelu meddyliau disgyblion, rhieni a staff yn ein hysgolion a'n colegau â chynlluniau datblygedig i ymateb i unrhyw darfu ar addysg yn y dyfodol a allai ddigwydd pe bai angen mwy o gyfyngiadau symud dros fisoedd y gaeaf.
"Mae angen arweinyddiaeth genedlaethol hyderus, canllawiau clir a phenderfyniadau cynnar i adfer hyder disgyblion, rhieni a'r sector addysgol. Er enghraifft:
- Mae angen gwneud penderfyniadau cynnar am ddefnyddio graddau asesu canolfannau yn hytrach nag arholiadau ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11 ac 13;
- Mae'n rhaid i'r Llywodraeth flaenoriaethu gwella dysgu o bell ar-lein, gan gynnwys gwersi byw, yn ogystal â sicrhau bod gan bob disgybl y cyfarpar a'r cysylltedd gofynnol;
- Mae angen i'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod digon o adnoddau a chefnogaeth i anghenion iechyd meddwl rhai disgyblion (a fydd yn dod i'r amlwg wrth iddynt ddychwelyd i ysgolion a cholegau);
- Mae angen arweiniad clir ynglŷn â chyfyngiadau symud lleol, ac mae angen cefnogi ysgolion i hwyluso dysgu o bell os bydd angen cyfyngiadau symud lleol.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru osgoi'r camgymeriadau y maent wedi'u gwneud hyd yn hyn – y ffiasgo arholiadau, bwrw'r cyfrifoldeb am orchuddion wyneb, cyhoeddi ailagor ysgolion am 4 wythnos heb sicrhau caniatâd yr Undebau ymlaen llaw. Byddant yn wynebu craffu manwl."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter