Yn ôl yr AS mae pobol wedi cael eu “twyllo”
Daw sylwadau’r Aelod o’r Senedd yn dilyn honiadau gan deulu Pete Calley mai ad-drefnu gwasanaethau fasgiwlar gogledd Cymru sydd i’w feio am orfod torri ei ddwy goes i ffwrdd.
Mae Esyllt Calley yn dweud bod ei gŵr yn wynebu colli ei goesau oherwydd ad-drefnu “diffygiol” gan y bwrdd iechyd lleol.
Mae Siân Gwenllian AS sy’n cynrychioli Arfon yn Senedd Cymru wedi dweud mai “camgymeriad dybryd” oedd ad-drefnu gwasanaethau fasgiwlar y gogledd yn y modd a wnaed.
Yn ôl Esyllt, mae dweud yr enw 'Glan Clwyd' yn ddigon i achosi i’w gŵr fynd i banig.
Yn gynharach eleni, ymunodd Siân Gwenllian AS â’r ymgyrchydd lleol Ken Jones, ysgrifennydd Cymdeithas Cleifion Arennau Ysbyty Gwynedd i alw ar y bwrdd iechyd i adfer gwasanaethau fasgiwlar yn Ysbyty Gwynedd.
Mae’r AS lleol yn cynrychioli’r etholaeth y mae Ysbyty Gwynedd ynddi, a bellach mae’n galw ar y bwrdd iechyd i “ymddiheuro yn llawn” am “lanast” gwasanaethau fasgiwlar y gogledd.
Dywedodd;
“Dwi wedi bod yn cefnogi Pete Calley a’r teulu a theuluoedd eraill o fy etholaeth i sydd wedi dioddef yn enbyd yn sgil penderfyniadau amheus y Bwrdd Iechyd.
“Mae stori Pete yn dorcalonnus a dwi’n dymuno pob dymuniad da iddo efo’i driniaeth yn Lerpwl, ond dwi’n pryderu yn arw am y dirywiad mawr sydd wedi digwydd i wasanaethau fasgiwlar yn y Gogledd.
“Nid yn Lerpwl y dylai Pete fod heddiw. Doedd dim synnwyr mewn datgymalu’r uned fyd-enwog oedd ym Mangor – fe ddwedais i hynny ar y pryd; fe wnaeth llawer ohonom ddadlau yn erbyn yr adrefnu ar y pryd ond fe fwriwyd ymlaen – ac yn anffodus, mae’n amheuon wedi dod yn wir a stori sobreiddiol Pete Calley yn dystiolaeth real iawn o hynny.”
Yn ôl Esyllt, mae’n teimlo iddi “golli’r dyn y priododd hi.”
Yn ôl Siân Gwenllian AS, roedd y gwasanaethau fasgiwlar dan arweiniad yr Athro Dean Williams “wedi cael eu disgrifio fel rhai o safon fyd-eang.”
Yn ôl yr AS mae pobol wedi cael eu “twyllo”;
“Mae angen i’r bwrdd iechyd ymddiheuro yn llawn ag yn ddiffuant am y llanast yma.
“Doedd dim angen chwalu’r uned wych a cholli’r holl arbenigedd oedd ym Mangor.
“Os oedd angen ail-strwythuro, pam na ellid fod wedi adeiladu ar y gwasanaeth ym Mangor – creu honno’n brif ganolfan.
“Fe gawsom ni ein twyllo – roedd y gwasanaeth fasgiwlar brys ac elfennau eraill o’r gofal i fod i aros ym Mangor ar ôl yr ad-drefnu – dydy hynny ddim wedi digwydd a mae hynny wedi rhoi halen ar y briw.
“Mae angen i’r Bwrdd Iechyd gyhoeddi ymddiheuriad llawn ac mae nhw angen adfer yr uned ac mae nhw angen cyfaddef yn gyhoeddus y niwed sydd wedi ei greu – a phobol fel Pete ac eraill yn cael eu dal yng nghanol hyn oll.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter