Mae angen sefydlu trefn gynllunio newydd er mwyn sicrhau bod lleisiau cymunedau lleol yn cael eu clywed pan fo cynlluniau datblygu’n cael eu cyflwyno ledled Cymru – a hynny yn ol Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sy’n ofni nad yw datblygwyr yn talu sylw i anghenion lleol dan y drefn sydd ohoni. Daw’r alwad yn sgil cynnal cyfarfod cyhoeddus yng Nghaernarfon ddiwedd yr wythnos fydd yn trafod papur polisi a gyflwynir gan Sian Gwenllian AC ar angen lleol am dai a’r Gymraeg yn y system gynllunio.
Meddai Sian Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon ac ysgrifennydd cabinet cysgodol dros y Gymraeg a Llywodraeth Leol,
“Mae angen i bobl leol gael llais yn y broses datblygu tai ac mae angen i unrhyw drefn gynllunio asesu yr angen lleol a’r effaith y bydd y datblygiadau yn ei gael ar gymunedau lleol. Mae angen i unrhyw drefn gynllunio newydd symud i ffwrdd o bennu datblygiadau lleol yn seiliedig ar ragolygon twf yn y boblogaeth a meddwl yn hytrach yn strategol am anghenion y gymuned leol gan ystyried ffactorau megis seilwaith ffyrdd, ysgolion, cyfleusterau cymunedol, mannau gwyrdd a llais i gymunedau yn ogystal a’r effaith ar yr iaith Gymraeg.
“Byddai penderfyniadau yn cael eu gwneud ar lefel sirol ond bod methodoleg gyffredin a dulliau cadarn er mwyn asesu’r angen lleol yn cael ei gweithredu ar draws pob sir yng Nghymru.
Mae cynllunio strategol ar y cyd rhwng awdurdodau lleol yn ffordd o rannu arbenigedd a rhannu adnoddau. Enghraifft o ymarfer da yn y maes hwn yw Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, a fabwysiadwyd yn 2017, sy’n cyflwyno polisi ynghylch “Tai Marchnad Leol”. Mae’r Cynllun yn rhestru ardaloedd penodol fel arfer lle bu datblygu mawr yn y gorffennol neu lle mae canran uchel o dai gwyliau, ac yn yr ardaloedd hynny bydd amodau cynllunio ar dai newydd er mwyn cyfyngu eu meddiannaeth i bobl sydd â chysylltiad lleol penodol. Fy marn i yw bod hwn yn bolisi arloesol ac y dylid rhannu’r arferion da, y fethodoleg a’r prosesau a ddefnyddiodd Gwynedd a Môn, gyda golwg ar ledaenu’r polisi hwn yn ehangach i gynnwys siroedd megis Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
“Ein blaenoriaeth ym Mhlaid Cymru yw i greu lleoedd sy’n gwella llesiant hirdymor pobl a chymunedau gan sicrhau cydbwysedd yn y system gynllunio i wneud yn siwr nad ydyw’n ffafrio datblygwyr dros gymunedau. Gyda deddfwriaeth cynllunio Cymru yn parhau i ddatblygu, mae’n bryd creu arolygiaeth gynllunio ar wahân i Gymru, er mwyn i’r arolygiaeth feithrin arbenigedd mewn system gynllunio Cymru’n unig.”
Bydd cyfarfod cyhoeddus i drafod polisi tai a chynllunio Plaid Cymru dan arweiniad Siân Gwenllian AC yn cael ei chynnal ar nos Wener yr 8fed o Fehefin am 7 o’r gloch yn Galeri yng Nghaernarfon.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter