Lansio apêl Nadolig

Mae Siân Gwenllian AS yn lansio ymgyrch codi arian ar gyfer 8 prosiect bwyd yn ei hetholaeth.

Y llynedd codwyd dros £2,000 tuag at fanciau bwyd o amgylch yr etholaeth, a gobeithiwn y gallwn efelychu rhywfaint o’r llwyddiant hwnnw eleni, a darparu cyllid hanfodol i brosiectau bwyd ledled yr etholaeth.

Yn ôl y Trussell Trust, dosbarthwyd 1.4 miliwn o barseli bwyd brys i bobl a oedd yn wynebu anawsterau ariannol rhwng Ebrill 2023 a Medi 2024.

Y prosiectau fydd yn elwa o’r apêl yw Banc Bwyd Caernarfon, Banc Bwyd Coed Mawr, Bwyd i Bawb Bangor, Cynllun Bwyd yr Orsaf (Penygroes), Porthi Dre (Caernarfon), Pantri Pesda (Bethesda), Cynllun Bwyd Cwm-y-glo a Llanrug, a Banc Bwyd Cadeirlan Bangor.

 

Gallwch rhoi drwy ddilyn y ddolen hon, ac os ydach chi’n byw o fewn cyrraedd i swyddfa’r Blaid ar Stryd y Castell yng Nghaernarfon, gallwch roi gyfrannu eitemau i’r fasged. Bydd cynnwys y casgliad yn mynd i gynllun rhannu bwyd Porthi Dre.

Diolch rhag blaen am eich cyfraniad.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2024-12-02 15:52:19 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd