Apêl Nadolig / Christmas Appeal
Mae'n gyfnod di-gynsail o gyni ariannol i deuluoedd ar draws Arfon a'r wlad gyfan. Rydym yn deall fod pryder gwirioneddol am y gaeaf o'n blaenau, ac am y cynnydd mewn biliau a chostau byw'n gyffredinol.
O’r herwydd, eleni mae Plaid Cymru Arfon wedi penderfynu cynnal apêl ariannol i gynlluniau bwyd yn yr etholaeth.
Mae’r mentrau hyn yn adlewyrchiad o’r sefyllfa frawychus y cawn ein hunain ynddi, a thros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o’r prosiectau hyn wedi eu sefydlu ar draws Arfon.
Bydd yr holl arian a godir o Apêl Nadolig Plaid Cymru Arfon eleni yn cael ei roi i:
- Banc Bwyd Arfon
- Banc Bwyd Coed Mawr
- Bwyd i Bawb Bangor
- Cynllun Bwyd yr Orsaf, Penygroes
- Porthi Dre
- Pantri Pesda
- Cynllun Bwyd Cwm-y-glo a Llanrug
- Banc Bwyd Cadeirlan Bangor
Diolch rhag blaen am eich cyfraniad.
We live in unprecedented times of financial hardship for families across Arfon and the country as a whole. We understand that there is real concern about the winter ahead, and the effects of the cost of living crisis.
Therefore, this year Plaid Cymru Arfon has decided to donate money raised from our financial appeal to food schemes within the constituency.
These initiatives are a reflection of the alarming situation we find ourselves in, and over the past few years a number of these projects have been established across Arfon.
Funds raised from this year's Christmas Appeal will be donated to:
- Arfon Foodbank
- Coed Mawr Foodbank
- Bwyd i Bawb Bangor Fareshare
- Yr Orsaf’s Food Scheme, Penygroes
- Porthi Dre
- Pantri Pesda
- Cwm-y-glo and Llanrug Food Scheme
- Bangor Cathedral Foodbank
Thank you in advance for your contribution.