Mae Arfon yn etholaeth yn Senedd Cymru. Mae'r wardiau yn yr etholaeth i gyd o fewn sir Gwynedd, sef; Arllechwedd, Bethel a'r Felinheli, Bontnewydd, Cadnant, Canol Bangor, Canol Bethesda, Canol Tref Caernarfon, Cwm-y-glo, Deiniolen, Dewi, Dwyrain Bangor, Gerlan, Glyder, Llanberis, Llanllyfni, Llanrug, Llanwnda, Menai, Peblig, Penisarwaun, Penygroes, Rachub, Tregarth a Mynydd Llandygai, Tryfan, Waunfawr, Y Faenol, Y Groeslon.
Ar lefel San Steffan, mae'r wardiau canlynol yn rhan o etholaeth Dwyfor Meirionnydd sy'n cael ei chynrychioli gan yr AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts: Bethel a'r Felinheli, Bontnewydd, Cadnant, Canol Tref Caernarfon, Cwm-y-glo, Deiniolen, Llanberis, Llanllyfni, Llanrug, Llanwnda, Menai, Peblig, Penisarwaun, Penygroes, Tryfan, Waunfawr, Y Groeslon.
Ar lefel San Steffan, mae'r wardiau canlynol yn rhan o etholaeth Bangor Aberconwy sy'n cael eu cynrychioli gan Claire Hughes AS (Llafur): Arllechwedd, Canol Bangor, Canol Bethesda, Dewi, Dwyrain Bangor, Gerlan, Glyder, Rachub, Tregarth a Mynydd Llandygai, Y Faenol.
Ydych chi'n hoffi'r dudalen hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter