Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn "onest" ynghylch methiant y cytundeb rhyngddynt hwy a chyflenwr preifat dienw i ddarparu 5,000 o brofion Covid-19 ychwanegol y dydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "siom" nad oedd y cwmni wedi gallu anrhydeddu "cytundeb ysgrifenedig".
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru ei bod yn "anghredadwy" bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod dweud pam chwalodd y cytundeb, na phwy oedd y cwmni.
Dywedodd Mr Price ei bod "er budd i'r cyhoedd" i Lywodraeth Cymru fod yn onest â'r cyhoedd a "rhoi atebion ar frys" am yr hyn a ddigwyddodd a pham.
Mae rhai ffynonellau wedi awgrymu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhan o'r rheswm pam chwalodd y cytundeb.
Dywedodd Mr Price y byddai Cymru nawr yn edrych ar wneud dim ond 1,100 o brofion Covid-19 y dydd yn hytrach na'r 6,000 o brofion a fyddai wedi cael eu cynnal y dydd yn unol â'r cytundeb.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru y byddai Cymru "yn bellach fyth ar ei hôl hi" o ran profi, a bod "amser gwerthfawr" wedi'i golli a "bywydau dirifedi" yn wynebu "mwy o risg".
Dywedodd na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn "siomedig – dylent fod yn gandryll".
Meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price,
"Ar ôl beio cwmni am fethu â chyflawni cytundeb hollbwysig i ddarparu pum mil o brofion Covid-19 ychwanegol, mae'n anghredadwy bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod dweud pam chwalodd y cytundeb a phwy oedd y cwmni – yn enwedig os mai Llywodraeth y DU a oedd yn gyfrifol am danseilio'r cytundeb, fel mae rhai ffynonellau wedi'i awgrymu.
"Mae er budd i'r cyhoedd i Lywodraeth Cymru fod yn onest â'r cyhoedd a rhoi atebion ar frys am yr hyn a ddigwyddodd -- a pham.
"Cawsom sicrwydd gan Vaughan Gething y byddai chwe mil o brofion yn cael eu gwneud bob dydd erbyn yfory [Ebrill 1af]. Nawr, gan fod y cytundeb wedi chwalu, rydym yn edrych ar wneud dim ond 1,100 o brofion y dydd. Bydd Cymru yn bellach fyth ar ei hôl hi o ran profion hollbwysig nag yr oeddem eisoes. Mae amser gwerthfawr wedi'i golli, a bywydau dirifedi nawr yn wynebu mwy o risg.
"Profi yw un o'r arfau gorau sydd gennym i drechu'r pandemig hwn drwy dracio ac olrhain lledaeniad y feirws, a sicrhau bod gweithwyr iechyd a gofal ar y rheng flaen yn cael eu diogelu ac yn gallu dychwelyd i'r gwaith.
"Ni ddylai Llywodraeth Cymru fod yn "siomedig", dylent fod yn gandryll.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter