Heddiw, mae’r Cynghorydd Plaid Cymru, Craig ab Iago sy’n arwain ar dai yng Ngwynedd yn falch o gyhoeddi cynllun tai newydd i’r sir, gydag isafswm cyllideb o £77miliwn dros y saith mlynedd nesaf.
Pwrpas y cynllun yw ymateb i'r argyfwng cynyddol sydd ym maes tai yng Ngwynedd, gan roi’r pwyslais ar gartrefu pobl leol, pobl sydd mewn angen a buddsoddi yn stoc dai y sir i’r dyfodol.
“Dwi’n byw, bwyta a chysgu tai Gwynedd ar y funud, gan mod i’n grediniol bod rhaid herio Llywodraeth Cymru a phwyso am newidiadau er mwyn symud ar y broblem dai sydd gennym yng Ngwynedd. Mae’r cynllun hwn yn gosod llwybr clir i fynd i’r afael â’r problemau y gallwn ni eu taclo.
“Ond wrth gwrs, dyw’r grym ddim gennym i wneud popeth. Mae’n rhaid cael yr awydd a’r awch gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford i wneud newidiadau pellgyrhaeddol os yw Llywodraeth Lafur o ddifri am daclo problemau tai a chartrefu pobl yng Ngwynedd a siroedd eraill ledled Cymru.”
Mae pum prif amcan i’r Cynllun Tai yng Ngwynedd:
- sicrhau na fydd neb yn gweld eu hunain yn ddigartref yng Ngwynedd
- sicrhau bod tai cymdeithasol ar gael i bawb sydd eu hangen
- sicrhau bod cartref i bawb yng Ngwynedd sy’n fforddiadwy iddyn nhw
- sicrhau bod tai Gwynedd yn llesol i’r amgylchedd
- sicrhau bod cartrefi yn cael dylanwad cadarnhaol ar iechyd a llesiant trigolion Gwynedd
“Mae’n gynllun uchelgeisiol, lle bydd gofyn am fuddsoddiad ariannol, cydweithio gyda phartneriaethau a sefydliadau eraill, gwaith caled a dyfalbarhad. Ond dyma’r weledigaeth, dyma’r cynllun a dyma’r llwybr y byddwn yn ei throedio yng Ngwynedd dros y 7 mlynedd nesaf.”
Fel rhan o’r cynllun, y bwriad yw creu dros 1500 o unedau newydd ar gyfer trigolion Gwynedd dros y saith mlynedd nesaf.
Un elfen o’r cynllun yw ail brynu 72 tŷ cymdeithasol er mwyn gallu eu gosod i drigolion lleol sy’n chwilio am gartrefi yng Ngwynedd. Wrth brynu cyn ‘dai cyngor’ sydd ar werth mae’n ffordd o gynyddu’r niferoedd o dai cymdeithasol sydd ar gael i’w rhentu i bobl leol.
Elfen arall o’r cynllun fydd ymestyn y cynllun cymorth i brynu lle mae’r cyngor yn benthyg hyd at 20% o werth y tŷ, hyd at £30,000 tuag at y gost o brynu tŷ i brynwyr tro cyntaf. Gall y cynllun ariannu hyd at 100 o dai ar gyfer trigolion lleol, ac os bydd y perchnogion yn gwerthu a symud ymlaen, bydd yr ad-daliad i’r cyngor yn cael ei ddefnyddio er mwyn ail fuddsoddi yn y tŷ nesaf.
Er mwyn cynorthwyo 120 o brynwyr tro cyntaf, mae’r cynllun hefyd yn cynnig y cyfle i osgoi talu’r dreth cyngor i brynwyr tai gwag am flwyddyn ychwanegol wrth i’r perchnogion newydd wneud y gwaith hanfodol i adfer y tai.
O fewn y cynllun hefyd, mae bwriad i ddod a 250 o dai gweigion y sir yn ôl i ddefnydd, trwy gynllun grant. Bwriad y grant fydd cynorthwyo prynwyr tro cyntaf i roi eu troed ar yr ystol eiddo gan roi cefnogaeth iddynt adnewyddu tai gweigion o fewn cymunedau Gwynedd.
Yn ôl y Cynghorydd Craig ab Iago: “Un weledigaeth fawr sy’n clymu’r cynllun hwn sef cynorthwyo trigolion Gwynedd sy’n dymuno parhau i fyw mewn cartrefi o fewn eu sir. Mae’n her enfawr, ond yn her dwi a chynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd wedi ymrwymo iddi. Dwi’n edrych ymlaen at y sialens.”
“Hoffwn ddiolch i dîm adran tai ac eiddo Cyngor Gwynedd am eu gwaith yn cydlynu, ymchwilio a pharatoi’r cynllun newydd. Mae’n gyfnod cyffrous i ni ac i bobl Gwynedd.”
Bydd y Cynghorydd Craig ab Iago yn cyflwyno ei gynllun tai i gabinet Cyngor Gwynedd heddiw (15 o Ragfyr 2020).
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter