Byddai cau’r banc yn ‘ergyd ddinistriol’ - Hywel Williams AS
Heddiw (19 Tachwedd) mae AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams, wedi annog Barclays i ailystyried cau cangen Caernarfon ar 18 Chwefror 2022.
Mewn llythyr at Brif Swyddog Gweithredol Barclays C. S. Venkatakrishnan, dywedodd Mr Williams fod y gangen wedi bod yn “ganolbwynt i’r stryd fawr leol” ers amser maith sy’n darparu “gwasanaethau bancio hanfodol i’r cymunedau a’r busnesau lleol.”
Dywedodd AS Arfon, er bod tueddiadau bancio cyn-bandemig yn glir, roedd y pandemig wedi “tanlinellu pwysigrwydd gwasanaethau lleol” i bobl sy’n aml yn cael eu gorfodi i ddelio â “diffyg mynediad band eang mewn ardaloedd gwledig”. Amlygodd y byddai'r cau yn effeithio'n arbennig ar bobl hŷn.
Bydd cwsmeriaid yn ardal Caernarfon sydd am barhau i ddefnyddio gwasanaethau yn y gangen yn cael eu gorfodi i newid banc neu i deithio 9 milltir i’r gangen Barclays agosaf ym Mangor, neu 14 milltir i Langefni, i gael mynediad at wasanaethau bancio sylfaenol. Mae Barclays wedi cydnabod bod 98 o gwsmeriaid ar hyn o bryd yn bancio gyda changen Caernarfon yn unig.
Anogodd Hywel Williams i Barclays ailystyried yr hyn a fyddai’n “ergyd ddinistriol i gymunedau lleol.”
Dywedodd Hywel Williams yn ei lythyr:
“Mae cangen Barclays yng Nghaernarfon wedi bod yn ganolbwynt ar y stryd fawr leol ers amser maith, gan ddarparu gwasanaethau bancio hanfodol i’r gymuned a busnesau lleol. Felly, mae'r penderfyniad gan eich banc i gau’r gangen leol yn peri pryder mawr i mi gan y bydd hyn yn cau nifer o bobl allan, yn enwedig yr henoed a chymunedau gwledig, ac yn tanseilio'r economi leol.
“Ar ôl darllen esboniad eich banc gyda diddordeb mawr, rwy’n derbyn bod y ffordd y mae pobl yn bancio yn newid. Fodd bynnag, byddwn yn dadlau er bod tueddiadau cyn-bandemig yn glir, mae'r pandemig hefyd wedi tanlinellu pwysigrwydd gwasanaethau lleol. Mae diffyg mynediad band eang mewn ardaloedd gwledig yn parhau i’w gwneud yn anodd i gymunedau gwledig ddefnyddio gwasanaethau bancio amgen.
“Fel rydych yn gwybod, mae naw deg wyth o gwsmeriaid yn bancio gyda changen Caernarfon yn unig ac mae rhwydwaith o gwsmeriaid ehangach gan gynnwys busnesau lleol. Gyda chau’r gangen hon, bydd y cwsmeriaid hyn naill ai’n cael eu gorfodi i newid banc neu i deithio 9 milltir i’r gangen Barclays agosaf ym Mangor, neu 14 milltir i Langefni, i gael mynediad at wasanaethau bancio sylfaenol.
“Rwy’n mawr obeithio felly y byddwch yn ailystyried yr ergyd ddinistriol hon i gymunedau lleol ac yn sicrhau bod cangen Barclays yng Nghaernarfon yn parhau ar agor.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter