Yng Nghymru, y neges o hyd yw Arhoswch Gartref, meddai'r AS.
Mae AS Plaid Cymru ar gyfer Arfon Hywel Williams wedi ysgrifennu at Weinidog Swyddfa'r Cabinet, Michael Gove AS i alw arno i sicrhau nad yw Llywodraeth y DU yn hysbysebu eu neges ‘arhoswch yn wyliadwrus’ yng Nghymru.
O ddilyn cyngor arbenigol ar iechyd cyhoeddus, y neges yng Nghymru o hyd yw ‘arhoswch gartref’. Mae gwahaniaethau rhwng polisïau hefyd, gan gynnwys cyfyngiadau mwy llym yng Nghymru ar deithio i wneud ymarfer corff.
Yn y llythyr, mae Mr Williams yn nodi bod nifer o Weinidogion y DU, gan gynnwys y Prif Weinidog, wedi methu â bod yn glir am faint eu tiriogaeth wrth wneud cyhoeddiadau. Mae AS Plaid yn dweud bod hyn wedi creu “dryswch” a allai “fygwth iechyd cyhoeddus yng Nghymru”.
Yn y llythyr, mae Hywel Williams AS yn ysgrifennu,
'Yn ystod yr argyfwng digynsail hwn, mae negeseuon clir yn hollbwysig. Bydd hyn yn achub bywydau.'
'Fodd bynnag, ar ôl datganiad Prif Weinidog y DU ddydd Sul (10 Mai), mae'r canllawiau a'r negeseuon ar gyfer Lloegr nawr yn wahanol.'
'Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld llawer o enghreifftiau siomedig o Weinidogion Llywodraeth y DU yn gwneud cyhoeddiadau polisi heb egluro maint eu tiriogaeth.'
'Rwy'n nodi bod fy nghyd-Aelodau a mi wedi cysylltu â gweinidogion, gan gynnwys Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i ofyn iddynt ei gwneud yn glir i'r Prif Weinidog bod y rhan fwyaf o'r mesurau yr oedd yn sôn amdanynt yn berthnasol i Loegr yn unig.'
'Mae hyn i gyd wedi creu gofid a dryswch i lawer o unigolion a busnesau yng Nghymru, sy'n amlwg o'r nifer enfawr o negeseuon e-bost yr wyf fi a fy nghyd-Aelodau wedi eu cael yn gofyn i ni egluro beth sy'n berthnasol i Gymru a beth sy'n berthnasol i Loegr.'
'Rwy'n pryderu y gallai unrhyw ddryswch sy'n cael ei achosi gan ddiffyg eglurder llywodraeth y DU rhwng y cyfyngiadau symud sydd ar waith yng Nghymru a'r rhai a gyhoeddwyd yn Lloegr fygwth iechyd cyhoeddus yng Nghymru.'
'Ni allwn ganiatáu i negeseuon cymysg danseilio, na dadwneud, ein cynnydd i leihau trosglwyddiadau yn y gymuned.'
'Fel y mae Nicola Sturgeon eisoes wedi gofyn amdano ar gyfer yr Alban, gofynnaf finnau i Lywodraeth y DU beidio â defnyddio eich ymgyrch hysbysebu 'arhoswch yn wyliadwrus' yng Nghymru.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter