Mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros etholaeth Arfon wedi mynegi siom gyda chwmni Northwood am eu penderfyniad i gau eu ffatri ym Mhenygroes, a hynny er gwaethaf cynnig o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru yn dilyn trafodaethau lleol.
Mewn cyfarfod o’r Senedd ddoe diolchodd Siân Gwenllian i’r Llywodraeth am y cynnig o gefnogaeth ariannol, ac am gefnogi’r cynnig amgen gan y gweithlu ym Mhenygroes, ond dywedodd “yn anffodus mae’r cwmni wedi gwrthod y cynnig hwnnw am resymau masnachol, ac maen nhw’n bwrw ymlaen i ddiswyddo’r 94 gweithiwr, sydd yn ergyd anferth.”
Ychwanegodd yr AS Plaid Cymru dros Arfon, sy’n cynnwys ardal Penygroes, y byddai’n rhaid dyfalbarhau â’r ymdrech i ganfod defnydd arall ar gyfer y ffatri. Mae’r trafodaethau hynny yn cynnwys dod o hyd i brynwr ar gyfer y safle.
Nododd Siân Gwenllian fod “94 o swyddi yn Nyffryn Nantlle yn gyfwerth â miloedd o swyddi mewn rhannau mwy poblog o Gymru”, ac yn “haeddu'r un ymdrech a’r un sylw” gan Lywodraeth Cymru.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter