Rhan ganolog o'i gweledigaeth yw Canolfan Iechyd a Lles yng nghanol y ddinas
Roedd Siân Gwenllian yn ymateb i’r newyddion bod rhan uchaf Stryd Fawr Bangor wedi ailagor yn dilyn gwaith dymchwel ar 164 a 166 Stryd Fawr Bangor.
Gwnaed y gwaith ar ôl i dân ddinistrio bwyty Noodle One a Siop Ddillad Morgan’s.
Mae Siân Gwenllian, sy'n cynrychioli'r ardal yn y Senedd, wedi ymateb;
“Mae’r cyhoeddiad hir-ddisgwyliedig ynglŷn ag ailagor Stryd Fawr Bangor yn newyddion da i fusnesau a thrigolion lleol.
“Bûm mewn cysylltiad rheolaidd gyda phartneriaid lleol a’r cwmni oedd yn gyfrifol am ddymchwel yr adeiladau er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl.
“Rwy’n falch iawn o glywed bod y rhan hon o’r stryd bellach ar agor.
“Ar ôl blwyddyn drychinebus i fusnesau bach lleol, mae nhw’n haeddu newyddion da!”
Mae Siân Gwenllian AS wedi amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol Canol Dinas Bangor, ar ôl dweud ym mis Ebrill bod “ar y Stryd Fawr angen ein cefnogaeth yn fwy nag erioed.”
“Hoffwn i’r cyhoeddiad ynglŷn ag ailagor rhan o’r stryd ddechrau’r broses o ail-ddychmygu dyfodol Stryd Fawr Bangor.
“Rhan fawr o’r broses honno fyddai sefydlu Canolfan Iechyd a Lles yng nghanol y ddinas.
“Byddai canolfan o’r fath yn gwella gwasanaethau iechyd lleol, yn ogystal â lleihau’r pwysau aruthrol ar Ysbyty Gwynedd, yn ogystal â denu pobl leol i ganol y ddinas, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr â siopau a chaffis lleol.
“Byddai’n dod â rhywfaint o fwrlwm yn ôl i ganol y ddinas.
“Yn ogystal â dwyn pwysau ar y bwrdd iechyd i symud ymlaen gyda’r prosiect hwn yn ddi-oed, byddaf i a Phlaid Cymru yn gwthio Llywodraeth Cymru i fabwysiadu mesurau a fyddai’n trawsnewid dyfodol strydoedd mawr a chanol trefi.
“Byddai hynny’n cynnwys rhoi’r grym i gynghorau lleol ddarparu prydlesi hir ar gyfer sefydliadau, busnesau a mentrau lleol, rhoi benthyciadau di-log i gefnogi busnesau bach i adfer ar ôl Covid, a buddsoddi mewn Banc Cymunedol newydd i helpu busnesau bach.
“Mae rhoi blaenoriaeth i fusnesau Cymru mewn caffael cyhoeddus a sefydlu Strategaeth Buddsoddi Mentrau Bach a Chanolig gan gynnwys benthyciadau tymor hir di-log gyda seibiannau ad-dalu hir, benthyciadau ailgychwyn, benthyciadau ad-dalu ac adfer a bargeinion newydd ar gyfer cwmnïau cam cynnar hefyd yn rhan annatod o adfywio canol trefi.
“Mae’r cyhoeddiad diweddar bod Bangor yn rhan o gronfa gwerth £3m Llywodraeth Cymru ar gyfer canol trefi gogledd Cymru i annog entrepreneuriaid i sefydlu busnes hefyd yn galonogol.
“Er gwaethaf dirywiad diweddar, dwi’n credu y gallai dyfodol Stryd Fawr Bangor fod yn un cyffrous iawn, a dwi’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r ymdrech i ailddychymgu’r y dyfodol hwnnw.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter