Mae’r Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi beirniadu oedi Llywodraeth Cymru gyda system brofi Covid-19 yng ngogledd Cymru.
Daw’r feirniadaeth ar ôl datganiad gan Lywodraeth Cymru y bydd canolfan brofi newydd yn cael ei hagor ym Mangor ‘o fewn pythefnos.’
Mae Siân Gwenllian AS wedi datgan ei hanghrediniaeth y bydd pythefnos arall hyd nes y bydd canolfan brofi newydd yn cael ei hagor ym Mangor.
Dywedodd yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, etholaeth sy'n cynnwys dinas Bangor;
“Ymddengys nad yw Llywodraeth Cymru wedi clywed am flaengynllunio, hyd yn oed wedi misoedd o’r pandemig.
Alla i ddim credu y bydd yn bythefnos arall cyn i ni gael canolfan brofi newydd ym Mangor. ”
Daw rhwystredigaeth Siân Gwenllian yng ngoleuni cynnydd mewn achosion yng Ngwynedd, a phryder y gallai'r sir wynebu cyfnod clo lleol.
“Roedd yn hollol amlwg y byddai angen mwy o brofi pan fyddai myfyrwyr yn dychwelyd i'r ysgolion, y colegau lleol, a Phrifysgol Bangor.
Nid yw'r sefyllfa hon yn ddigon da. Mae system brofi ac olrhain effeithlon yn hanfodol i atal lledaeniad y feirws.”
Yr wythnos hon mae'r AS wedi cyflwyno cwestiynau i Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd.
“Rwyf wedi gofyn i’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, pryd y bydd canolfannau profi cymunedol Ysbyty Alltwen a Pharc Menai yn ailddechrau profi. Rwyf hefyd wedi gofyn pa gyfleusterau profi cymunedol sydd ar gael yng Ngwynedd, a pha gyfleusterau sydd ar gael i brofi gweithwyr allweddol yng Ngwynedd. ”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter