Nod yr Ymgyrch Bwyllgorau yw dathlu aelodau gwirfoddol y mudiad
Sefydlwyd y Mudiad Meithrin ym 1971, ac mae'n fudiad gwirfoddol sy'n arbenigo mewn darparu addysg blynyddoedd cynnar Cymraeg, gan gynnwys grwpiau meithrin.
Mae ymgyrch #MwyNaPhwyllgor y mudiad yn cael ei chynnal rhwng Medi 13-17, a’r nod yw dathlu gwaith aelodau pwyllgor gwirfoddol y mudiad.
Cefnogwyd ymgyrch y mudiad yr wythnos hon gan Weinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg a’r Gymraeg, Siân Gwenllian AS;
“Rydym yn ymwybodol erbyn hyn bod dysgu iaith yn haws pan yn ifanc, ac mae buddion amlieithrwydd i blant yn ddiddiwedd.
“Dyna un rheswm pam fod gwaith y Mudiad Meithrin yn amhrisiadwy.
“Mae’n hiaith genedlaethol yn rhodd gwerthfawr i’n plant, ac mae’r gwaith gwych y mae’r Mudiad Meithrin yn ei wneud ledled Cymru i hwyluso’r mynediad at addysg cynnar Cymraeg yn hanfodol. Hoffwn ddiolch yn fawr iddynt, a'u llongyfarch ar eu hymgyrch #MwyNaPhwyllgor. "
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Prif amcanion wythnos Ymgyrch Bwyllgorau yw annog unigolion newydd i wirfoddoli i fod ar bwyllgor yn eu Cylch Meithrin lleol; dangos bod llu o gefnogaeth ac adnoddau ar gael drwy’r Mudiad i gefnogi’r pwyllgor gwirfoddol, atgyfnerthu’r neges nad oes angen bod yn rhiant na gallu siarad Cymraeg i fod yn wirfoddolwr ar bwyllgor Cylch Meithrin, ac yn bennaf oll diolch i’r gwirfoddolwyr sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi ein Cylchoedd Meithrin.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter