Mae Siân Gwenllian AS wedi croesawu cynlluniau ar gyfer y Ganolfan Gofal Cychwynnol newydd
Mae cynghorwyr Gwynedd wedi cymeradwyo’r cynlluniau ar gyfer Canolfan Gofal Cychwynnol newydd ym mhentref Waunfawr.
Bydd syrjeri Waunfawr yn cael ei symud o’r feddygfa bresennol yn y pentref i ganolfan bwrpasol newydd ger Fferm Cross. Bydd y safle yn cynnwys 59 lle parcio.
Mae Siân Gwenllian AS wedi croesawu’r cyhoeddiad, gan ddweud ei fod yn newyddion da “ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu.”
“Mae Meddygfa Waunfawr yn gwasanaethu ardal eang, ac mae’n bwysig bod gan y bobol leol gyfleusterau iechyd sy'n addas i'r 21ain ganrif.
“Rwyf wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau iechyd ym mhentref Waunfawr ers cael fy ethol yn 2016.
“Ar fy ymweliadau â’r feddygfa rwyf wedi clywed straeon a thystiolaeth gan y gweithwyr sy’n dangos nad yw’r feddygfa bresennol bellach yn addas i wasanaethu ei chleifion.
“Mae’r cynlluniau newydd yn gyffrous, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cynlluniau yn dwyn ffrwyth.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter