AS yn galw am farn myfyrwyr deintyddol

Er mwyn adeiladu’r achos dros Ysgol Deintyddiaeth ym Mangor yn ei hetholaeth, mae’r Aelod o’r Senedd lleol wedi comisiynu arolwg sy’n ceisio deall profiadau a safbwyntiau myfyrwyr deintyddol yng Nghymru.

 

Mae’r arolwg, sydd wedi’i anelu at gyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol neu ddarpar fyfyrwyr deintyddiaeth, yn gobeithio dysgu mwy am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu myfyrwyr deintyddol, ond mae hefyd yn rhan o ymgyrch hirdymor Siân Gwenllian AS i gael ysgol ddeintyddol yn ei hetholaeth i fynd i’r afael â diffyg gwasanaethau yn lleol. Yn ddiweddar, arweiniodd yr AS ddadl drawsbleidiol ar hyfforddiant deintyddiaeth, ac arweiniodd hyn at y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer deintyddion.

 

Yn ôl Siân Gwenllian:

 

“P’un ai ydach chi’n gyn-fyfyriwr deintyddol, yn fyfyriwr deintyddol presennol, neu’n ddarpar ymgeisydd, mae eich barn yn bwysig i ni.

 

“Roedd ein hymgyrch leol am Ysgol Feddygol ym Mangor yn llwyddiant, a gobeithiwn y bydd canfyddiadau’r arolwg hwn yn cael eu defnyddio i adeiladu’r achos dros Ysgol Deintyddiaeth yn y ddinas.

 

“Rydan ni hefyd yn gobeithio deall beth sy’n bwysig i fyfyrwyr wrth ddewis ysgol ddeintyddol.

 

“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n cyfrannu at yr arolwg hwn. Mae eich llais yn bwysig!"

 

Mae'r arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau, mae'n gwbl ddienw, ac mae ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2024-07-22 15:21:35 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd