Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams, wedi annog darparwyr ffonau symudol i wneud popeth sydd ei angen i wella gwasanaeth symudol yn un o barciau busnes mwyaf gogledd orllewin Cymru, wrth i rai tenantiaid ystyried ail-leoli.
Cyflwynwyd adroddiad i AS Arfon gan denantiaid ym Mharc Menai, Bangor yn rhestru problemau rhwydwaith a wynebir gan fusnesau a gweithwyr ar y safle. Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod 90% o'r ymatebwyr hefo gwasanaeth gwael neu ddim o gwbl. Dywedodd dros 60% o'r ymatebwyr fod diffyg gwasanaeth yn cael effaith andwyol ar eu busnes.
Mae Hywel Williams AS bellach wedi codi'r mater gyda'r ddau brif ddarparwr rhwydwaith, EE a Vodafone, gan geisio sicrwydd y bydd y rhwydwaith lleol yn cael ei huwchraddio cyn gynted ag y bo modd.
Dywedodd Hywel Williams AS,
'Mae busnesau ac unigolion sy'n gweithio o Barc Menai yn cael eu rhoi dan anfantais amlwg o ganlyniad i broblemau rheolaidd gyda'r rhwydwaith ffôn symudol.'
'Yn y byd digidol sydd ohoni, mae'r gallu i wneud busnes dros y ffôn yn hanfodol. Mae diffyg argaeledd gwasanaeth symudol ym Mharc Menai yn cael effaith sylweddol ar atyniad y parc fel canolfan i fusnesau.’
'Rydw i wedi codi y mater hwn gyda darparwyr rhwydwaith, gan bwyso arnynt yr angen i fynd ymlaen a gwella'r rhwydwaith symudol lleol ym Mharc Menai ac yr ardal gyfagos.'
'Er mwyn i Parc Menai ddatblygu fel canolfan ar gyfer busnesau arloesol sy'n cael eu harwain gan dechnoleg, mae'n hanfodol bod cyflogwyr a rhanddeiliad yn gallu cael mynediad at wasanaeth symudol cyflym a dibynadwy. Nid yw'n ofyn mawr.’
Ychwanegodd Tamsin Slinn sy’n gweithio ar y safle a luniodd yr adroddiad,
'Ar ôl cael problemau gwasanaeth ffôn yn y gwaith ers peth amser, cychwynais arolwg i weld faint o bobl ar draws y Parc Busnes oedd â'r un broblem.'
‘Canfwyd fod tua 90% o bobl heb fawr o wasanaeth ffôn symudol neu ddim o gwbl ac nid oes unrhyw ddarpariaeth 4G. Nid yw hyn yn ddigon da i barc busnes.'
'Mae'n rwystr i fusnesau lleol trwy gynyddu costau a cholli cyfleoedd ac yn ei gwneud yn anoddach iddynt gyflwyno delwedd broffesiynol i gwsmeriaid o'r tu allan i'r ardal.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter