Mae Siân Gwenllian AS wedi llongyfarch Age Cymru Gwynedd a Môn ar dderbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Dywedodd Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros etholaeth Arfon yng Ngwynedd;
“Rwy’n eithriadol o falch o glywed bod Age Cymru Gwynedd a Môn wedi derbyn grant o £81,500 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae cynrychiolydd o’r gangen wedi fy sicrhau y bydd y wobr hon yn gwneud gwahaniaeth i’r gwaith anhygoel y maent yn ei wneud.”
Bydd y cymorth ariannol yn galluogi i Age Cymru Gwynedd a Môn barhau i weithio yn eu cymunedau gan ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn cyfnod lle bo lefelau unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn uwch.
Ychwanegodd Siân Gwenllian AS;
“Mewn cyfnod pan mae elusennau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru yn wynebu heriau cynyddol o ganlyniad i COVID-19, mae’n hyfryd cael newyddion fel hyn i godi calon.
Hoffwn longyfarch Age Cymru Gwynedd a Môn am eu llwyddiant, a’u diolch am eu gwaith diwyd.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter