Yn ôl yr AS, dylai'r ffocws fod ar awyru gwell yn hytrach na’r glanweithyddion dadleuol
Mewn cyfarfod llawn o'r Senedd, holodd Siân Gwenllian AS y Prif Weinidog ynglŷn â’r cynllun gwerth £3.3m i roi glanhawyr osôn mewn ysgolion.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod y Llywodraeth wedi oedi’r cynllun glanhau osôn am y tro, yn dilyn pryderon a godwyd gan Siân Gwenllian AS ac eraill.
Ddoe, gofynnodd Siân Gwenllian i’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan am yr amserlen ar gyfer yr adolygiad. Dywedodd;
“Pan wnes i holi’r Prif Weinidog am y defnydd o’r rhain mewn ysgolion, cefais ar ddeall fod adolygiad cyflym yn cael ei gynnal gan y gell cynghori technegol i edrych ar y pryderon am ddiogelwch.
“Ydy’r adolygiad wedi gorffen ei waith, a beth oedd yr argymhellion? Beth fyddwch yn ei wneud?”
Atebodd y Gweinidog Iechyd drwy ddweud fod yr adolygiad yn parhau ac na wnaed unrhyw benderfyniadau.
Yn dilyn y drafodaeth yn y Senedd, dywedodd Siân Gwenllian:
“Mae llawer o arbenigwyr yn amheus o’r defnydd o beiriannau ôson ac yn credu y byddai’n llawer gwell rhoi ffocws ac adnoddau i ddulliau eraill o atal lledaeniad y feirws mewn ysgolion – ac y byddai’n well cael mwy o adnoddau ar gyfer monitro aer a symud aer o gwmpas adeiladau.
“Rwy’n gobeithio y bydd penderfyniad buan i dynnu’r plwg ar y cynllun peiriannau oson ac y gellid defnyddio’r £3 Miliwn i gefnogi ysgolion i wella cylchrediad aer fel dull sydd wedi ei brofi i fod yn effeithiol iawn i atal lledaeniad y feirws.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter